DANIEL LLOYD - TRO AR FYD
Siarad Plaen Daniel Lloyd
Mae’r grwp Daniel Lloyd a Mr Pinc yn dal i fynd o nerth i nerth, ond mae’r albym solo hon yn un lle mae Daniel yn rhannu mwy o’i brofiadau personol gyda’i gynulleidfa. Mae RASAL yn falch i gyhoeddi Tro ar Fyd sy’n glwstwr o ganeuon gwreiddiol, melodig, wedi eu cyfansoddi ar y cyd gyda’r cynhyrchydd Greg Parmer.
Mae Daniel, sy’n wreiddiol o Rosllannerchrugog, eisoes wedi sefydlu ei hun fel canwr-gyfansoddwr roc sy’n apelio at galonnau’r gwrandawyr. Mae’r albym yma’n cadarnhau hynny ac yn cyflwyno deg trac sy’n amrywio o roc melodig a baledi acwstig, i gytganau anthemig, ac yn plethu themâu o gariad, hiraeth ac ansicrwydd.
“Mae’r ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn rhai cyffrous a gwahanol, yn dod ac ystod o brofiadau pwysig a newydd i mi. Mae profiadau fel gadael fy nghartref a setlo lawr, cyfnodau isel a rhai cyffrous i gyd yn llifo drwy’r caneuon hyn” meddai Daniel.
Mae Daniel a Greg yn rhannu dylanwadau tebyg, a nod yr albym oedd plethu genres a steiliau gwahanol. Ychwanegodd Daniel:
“Dwi’n cael fy nylanwadu gan bob mathau o gerddoriaeth a ro’ ni isio adlewyrchu hyn yn yr albym. Mae ‘na roc, prog roc, gwerin, Lladin, canu gwlad a jas yn ogystal â chaneuon acwstig arni. Mae hi dal yn ‘albym gitâr’ ond ‘da ni ‘di trio ehangu’r palet rhywfaint tro yma… mae yna lot o offerynnau taro, lleisiau cefndir, clychau, melotrons, ffidilau, pedal steels.”
Wedi’i recordio gan Greg Parmer yn SAIN, Llandwrog, mae’r albym hon yn dangos talent i gyfansoddi caneuon gafaelgar cofiadwy sy’n apelio at bawb.
Mewn Stoc
£9.99



