Sain Records

Artistiaid Amrywiol - Amser am Un Gân Arall...

Artistiaid Amrywiol - RASALCD030

Mae label RASAL yn bum mlwydd oed eleni ac i ddathlu’r achlysur arbennig cyhoeddir Amser am un gân arall, sef casgliad amlgyfrannog gan artistiaid labeli RASAL, COPA a GWYMON. Wrth ddathlu’r gorffennol, mae’r label hefyd yn edrych tua’r dyfodol ac yn falch o gyhoeddi y bydd catalog cyfan label RASAL, COPA a GWYMON ar gael i lawrlwytho’n ddigidol trwy itunes, Amazon, HMV, Spotify a 7Digital a mwy.

Dywedodd rheolwr y label, Guto Brychan;
“Sefydlwyd RASAL yn 2004, gyda’r is-labeli GWYMON a COPA yn dilyn yn 2007 er mwyn ehangu’r amrywiaeth o gerddoriaeth sy’n cael ei ryddhau. Bellach mae’r tri label yn gartref i’r rhan fwyaf o brif artistiaid y sin roc Gymraeg. Yn anffodus dydi bob artist ddim yn ymddangos ar y cd – yn hytrach ry’n ni wedi ceisio dewis y traciau sydd wedi creu’r argraff fwyaf dros y 5 mlynedd diwethaf”

Un band sy’n ymddangos ar yr albwm yw Winabego a oedd yn ei pinacl yn 2005. Dywedodd basydd y band, Meic Parry,
“Mae’r casgliad yma crynhoi’r bum mlynedd diwethaf yn dda. Mae’n grêt cael bod yn rhan o’r casgliad ac yn deimlad braf i’n cân ni gael ei gynnwys.”

Mae RASAL, COPA a GWYMON wedi profi llwyddiant esgubol dros y blynyddoedd diwethaf ac yn awr maent yn edrych tua’r dyfodol. Dywedodd Guto,
“Ma na gynnyrch newydd gan Gwibdaith Hen Fran, Yr Ods, Sibrydion, The Gentle Good, Lleuwen, Al Lewis Band, Huw M a Richard James ar y ffordd yn 2010, felly mae’n argoeli i fod yn flwyddyn prysur arall i’r labeli.”

Rhestr y Traciau

  1. Naw Bywyd - Sibrydion
  2. Fel Hyn am Byth - Yr Ods
  3. Bwthyn - Derwyddon Dr Gonzo
  4. Be Di Be - MC Mabon
  5. Helsinki - Fflur Dafydd a'r Barf
  6. Byw - Anweledig
  7. Morgi Mawr Gwyn - Mr Huw
  8. Dal Fi Fyny - Winabego
  9. Gwas y Diafol - Dyfrig Evans
  10. Goleuadau Llundain - Daniel Lloyd a Mr Pinc
  11. Coffi Du - Gwibdaith Hen Frân
  12. Trywydd Iawn - Al Lewis
  13. Dawel Disgyn - The Gentle Good
  14. Bore Sadwrn - Lleuwen
  15. Cân Beic Dau - Alun Tan Lan
  16. Pa Bryd y Deui Eto? - 9bach
  • Rhifnod : RASALCD030
  • Label: Rasal
  • Genre:
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2009

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @LabelRasal