Sain Records

Y Trŵbz - Tyrd yn Ôl

Y Trŵbz - Rasal LL022

Sengl gyntaf Y Trŵbz
Mae’r sengl ddiweddaraf o Glwb Senglau’r Selar, sef ‘Tyrd yn Ôl’ gan Y Trŵbz allan i’w lawr lwytho nawr.
Y grŵp ifanc o’r Gogledd ydy’r ail artist i ryddhau eu sengl cyntaf fel rhan o brosiect newydd y cylchgrawn cerddoriaeth Cymraeg cyfoes, Y Selar.
“Rydan ni’n falch iawn i allu rhyddhau ein cynnyrch cyntaf fel rhan o Glwb Sengau’r Selar” meddai prif leisydd Y Trŵbz, Mared Williams.
“Mae wedi bod yn flwyddyn gofiadwy i ni rhwng ennill Brwydr y Bandiau C2 Radio Cymru a chael cyfle i chwarae ar lwyfan Maes B ar nos Sadwrn olaf y Steddfod. Mae rhyddhau ein sengl gyntaf yn ffordd berffaith i orffen y flwyddyn.”
“Fe gawsom ni ymateb gwych i’r gân a gafodd ei recordio ar gyfer Brwydr y Bandiau, ac rydan ni’n edrych ymlaen at weld sut ymateb geith hon sydd ychydig bach yn wahanol.”
Syniad Clwb Senglau’r Selar ydy rhyddhau cynnyrch cyntaf artistiaid addawol, yn y gobaith y bydd labeli’n cymryd sylw ac yn cynnig cytundeb recordio iddynt.
‘C-C-CARIAD!’ gan Estrons oedd sengl gyntaf y Clwb Senglau fis Tachwedd, ac mae’r trac wedi cael ymateb arbennig o dda.

Rhestr y Traciau

  1. Tyrd yn Ôl

Lawrlwytho Yn Unig
£0.79

  • Rhifnod : Rasal LL022
  • Label: Rasal
  • Genre: Pop / Rock
  • Fformat: Single
  • Dyddiad Rhyddhau: 2014

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @LabelRasal