Sain Records

Argrph - Neb yn Cofio

Argrph - Rasal LL029

Pwy ydy Argrph?
Mae Argrph yn grŵp 3 aelod sef Emyr Sion (canu a gitâr) o Gaerfyrddin ac Alun Bryn (gitâr fas) a Tomos Evans (drymiau) sydd ill dau o Ddyffryn Teifi.
Emyr ydy prif gyfansoddwr y grŵp, a bydd yn gyfarwydd i rai o selogion y sin fel aelod o Tymbal ac Y Gwyryf.
Sŵn Argrph
Mae sŵn y grŵp yn anodd ei ddiffinio, gyda adlais o sŵn syrff sy’n atgoffa rhywun rhywfaint o Y Niwl, ond hefyd cymysgedd o garej a grynj.
Ymysg eu dylanwadau cerddorol mae’r aelodau’n rhestru Ty Segall, Jaws, King Krule, Basement, Blaenavon, Sen Segur ac Y Niwl.
Mae rhai o’r dylanwadau hyn i’w clywed ar ‘Neb yn cofio’ sydd yn atgoffa rhywun hefyd o waith diweddarach Jen Jeniro.
Mae’r gân wedi’i recordio’n stiwdio Sain yn Llandwrog gyda Sion Jones yn cynhyrchu.
Yn ôl y grŵp mae rhai cynigion gigs ar y bwrdd ar gyfer yr haf, felly mae’n werth cadw golwg amdanynt ar lwyfannau gwyliau Cymru.

Rhestr y Traciau

  1. Neb yn Cofio

Lawrlwytho Yn Unig
£0.99

  • Rhifnod : Rasal LL029
  • Label: Rasal
  • Genre: Pop/Rock
  • Fformat: Single
  • Dyddiad Rhyddhau: 2016

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @LabelRasal