Sain Records

Alffa - Creadur

Alffa - Rasal LL032

Cyfansoddwyd Creadur rhyw fis ar ôl i ni ennill Brwydr y Bandiau, roedd y ddau ohonom yn gyffrous iawn ac yn llawn egni ar ôl perfformio ym Maes B ac roedd ysgrifennu cân newydd yn gam reit naturiol ar y pryd. Tua’r un adeg roedd ‘Quenns of the Stone Age’ wedi cyhoeddi albym ac roedd geiriau rhai o’r caneuon wedi ein hysbrydoli…ond mewn ffordd reit dywyll. Ysgrifennwyd y gân am y teimlad o gerdded yn y nos heb wybod beth all fod tu ôl i chi, ac mewn rhyw ffordd bo’r diafol yn chwarae efo’ch meddwl chi, yn gwneud i chi feddwl pethau ac yn defnyddio’r tywyllwch fel pŵer. O ran sŵn y gân, roedd cadw’r pŵer a’r fuzz yn bwysig i ni, rhoddwyd lot o amser ar hyn. Hefyd, roedd cadw sain dryms Siôn mor fawr a phwerus a phosib yn bwysig. Robin Llwyd a Siôn Jones oedd efo ni yn Stiwdio Sain yn recordio ‘Creadur’. Ein gig nesaf fydd Focus Wales yn Wrecsam ac mae’r ddau ohonom wedi recordio sesiwn i Radio Cymru fydd allan yn fuan. Rydym yn edrych ymlaen at gyhoeddi mwy o gerddoriaeth eleni ac i gigio dros yr haf!

Rhestr y Traciau

  1. Creadur

Lawrlwytho Yn Unig
£0.99

  • Rhifnod : Rasal LL032
  • Label: Rasal
  • Genre: Pop / Rock
  • Fformat: Single
  • Dyddiad Rhyddhau: 2018

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @LabelRasal