Sain Records

Glain Rhys - Adre dros 'Dolig

Glain Rhys - Rasal LL033

Bob blwyddyn, tua’r adeg yma, mae pawb yn dechrau meddwl am eu hoff ganeuon Nadolig. A phob blwyddyn, tua’r adeg yma, mae pawb yn chwilio am ganeuon Nadolig newydd i ychwanegu at restr y ‘clasuron’ traddodiadol.

Eleni – yn llawn hwyl a hiraeth, glitar a gitârs – mae Glain Rhys yn falch o allu rhyddhau ‘Adre dros ‘Dolig’ – ei sengl sgleiniog newydd.

Yn wreiddiol o’r Bala ond bellach yn fyfyrwraig yng Nghaerdydd, rhyddhaodd Glain ei chaneuon gyntaf ar gasgliad Sesiynau Stiwdio Sain yn gynharach eleni. Recordiwyd ‘Adre Dros ‘Dolig’ yn stiwdio Sain â‘i chynhyrchu gan Robin Llwyd. Yng ngheiriau Glain “Cân ‘Dolig wedi ei sgwennu yn ganol yr haf. ‘Feelgood’! Fel sdiwdant yn y coleg, ‘s’na ddim byd gwell na dod adre ar ôl tymor hir i ‘neud dim byd!”

Hefyd yn ymddangos ar y sengl mae Robin Llwyd (gitâr), Carwyn Williams (drymiau) a Marged Gwenllian (bâs). Mae Glain ar hyn o bryd yn recordio ei halbym gyntaf yn stiwdio Sain a bydd yr albym allan yn hanner cyntaf 2018.

Rhestr y Traciau

  1. Adre Dros 'Dolig

Lawrlwytho Yn Unig
£0.99

  • Rhifnod : Rasal LL033
  • Label: Rasal
  • Genre: Pop / Roc
  • Fformat: Digital
  • Dyddiad Rhyddhau: 2017

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @LabelRasal