Sain Records

Bitw - Gad i Mi Gribo Dy Wallt

Bitw - Rasal LL034

Yng nghanol 80au Thatcher bu cyfres Senglau Sain yn gyfrifol am gyflwyno i’r byd rhai o artistiaid pop Cymraeg pwysicaf a mwyaf dylanwadol y cyfnod ac yn wir, hanes canu pop Cymraeg.

O Ail Symudiad i Bando i Rhiannon Tomos a’r Band i Omega i Rocyn i Angylion Stanli i enwi ond ychydig, daeth Senglau Sain yn ddatganiadau saith modfedd o bop, hyder ac identiti.

Yn 2017, er bod y Toriaid, Trump ac imperialaeth yn rheoli’r byd, rydym yn byw mewn cyfnod lle mae canu pop Cymraeg – yn nhermau artistiaid a labeli – yn gryfach a mwy chwyldroadol nac erioed o’r blaen. Ac yn y cyd-destun hyderus a blaengar hwn mae Sain a Turnstile yn falch o allu ail-lansio yn ddigidol Senglau Sain.

Gan ddefnyddio y gwaith celf eiconig gwreiddiol ac wedi ei recordio yn stiwdio chwedlonol Sain yn Llandwrog, pleser yw cyflwyno BITW, sef prosiect newydd Gruff ab Arwel (Eitha Tal Ffranco, Y Niwl, Gruff Rhys ayb) ac un o senglau pop gorau 2017 ‘Gad i Mi Gribo dy Wallt’. Melodi, offeryniaeth, lleisiau a theitl cân berffaith.

Cynhyrchwyd a recordiwyd y trac gan Llyr Parri yn Stiwdio Sain ar Dachwedd 7fed, 2017 ac yn ymuno â Gruff yn y band mae Alex Morrison, Gwion Llewelyn a Mari Morgan.

Rhestr y Traciau

  1. Gad i Mi Gribo dy Wallt

Lawrlwytho Yn Unig
£0.99

  • Rhifnod : Rasal LL034
  • Label: Rasal
  • Genre: Pop / Roc
  • Fformat: Digital
  • Dyddiad Rhyddhau: 2017

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @LabelRasal