Sain Records

Eadyth & Shamoniks & llais Edward Morus Jones o 1968 - Ymlaen yr Awn

Eadyth & Shamoniks & llais Edward Morus Jones o 1968 - Rasal LL036

Senglau Sain – y nesaf yn y gyfres yw ‘Ymlaen yr awn’ gan Eädyth a Shamoniks ac ysbrydolwyd y trac gan hen recordiad o Edward Morus Jones a gyhoeddwyd ar label Cambrian yn 1968. Daeth Sam (Shamoniks) ar draws y record mewn siop elusen lleol ac ar bnawn Sul braf aeth y ddau ati i greu cân o’r newydd gan ddefnyddio sampl o’r finyl. Ymlaen yr awn – yr un yw’r neges hanner canrif yn ddiweddarach!

Mae Eadyth yn rhan o gynllun Gorwelion BBC Cymru eleni ac mae wedi bod yn cydweithio gyda Shamoniks ar nifer o draciau, mae gwefan Gorwelion yn ei chyflwyno fel artist sy’n creu ‘cerddoriaeth ddawns electronig Gymraeg o’r safon uchaf. Mae llais Eadyth a’i gallu i sgwennu caneuon a’u perfformio’n fyw (mewn sioe anhygoel sy’n denu sylw) yn gwbl ryfeddol’.

Track Listing

  1. Ymlaen yr Awn

Lawrlwytho Yn Unig
£0.99

  • Rhifnod : Rasal LL036
  • Label: Rasal
  • Genre: Pop / Rock
  • Fformat: Digital
  • Dyddiad Rhyddhau: 2018

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @LabelRasal