Sain Records

Bwncath - Clywed dy lais

Bwncath - Rasal LL042

Wedi holl gynnwrf Cân i Gymru a’r Ŵyl Ban Geltaidd mae’r canwr gyfansoddwr Elidyr Glyn a gweddill ei fand Bwncath yn falch o gyhoeddi eu bod wedi dychwelyd i Stiwdio Sain i ddechrau gweithio ar ddeunydd newydd ar gyfer yr albwm nesaf. Nôl ym mis Mai bu’r band fewn yn y stiwdio i gychwyn ar y gwaith o ymarfer a recordio deunydd newydd. Yn ystod y sesiwn cyntaf recordiwyd 3 cân newydd ac mi fydd y band yn dychwelyd mis Hydref i orffen y gweddill. Mae Bwncath ar daith ar hyn o bryd ac yn mwynhau cyflwyno rhai o’r caneuon newydd i gynulleidfaoedd Cymru… ‘mae’r ymateb wedi bod yn dda hyd yma’ medd Elidyr, ‘a dwi’n edrych ymlaen at bawb glywed y fersiwn derfynol o’r sengl ddiweddaraf – Clywed dy lais’.
Elidyr yw cyfansoddwr ac awdur y sengl newydd ac mae’n cyflwyno’r gân fel hyn; ‘mae’n ddarlun o chwilio am byllau dŵr mewn diffeithdir fel cyfatebiaeth i chwilio am wirionedd yn y byd. Daw’r ysbrydoliaeth felly o’r profiad hwn o chwilio.’ Elidyr hefyd sy’n gyfrifol am waith celf y sengl.
Cynhyrchwyd ‘Clywed dy Lais’ gan Robin Llwyd Jones yn Stiwdio Sain, Llandwrog.

Lawrlwytho Yn Unig
£0.99

  • Rhifnod : Rasal LL042
  • Label: Rasal
  • Genre: Folk
  • Fformat: Single
  • Dyddiad Rhyddhau: 2019

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @LabelRasal