Sain Records

Anweledig - Sombreros yn y Glaw

Anweledig - Sombreros yn y Glaw

Campwaith cyntaf y criw o fro Stiniog!

Mae Anweledig wedi bod ymysg rhai o fandiau amlycaf Cymru ers nifer o flynyddoedd. Daethant i sylw nifer fawr ohonom yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd, wrth iddynt gymysgu gallu offerynnol gyda charisma perfformwyr naturiol. Bryd hynny roedd eu cerddoriaeth dan ddylanwad ffync ac acid jazz. Profodd y gymysgedd hon yn anhygoel o boblogaidd gyda chynulleidfaoedd Cymru am ei bod yn ddawnsiadwy, egniol a melodig.

Ers y dyddiau cynnar, mae eu dylanwadau a’u niferoedd wedi ehangu. Erbyn hyn dyw hi ddim yn anghyffredin i glywed elfennau reggae, dub, a ska yn y gymysgfa gerddorol nac i weld llu o offerynwyr ychwanegol chwaith yn eu cyngherddau. O’r gwreiddiau egniol cynnar, mae swn aeddfetach wedi datblygu. Wrth wrando ar albwm cyntaf y band, Sombreros yn y Glaw, mae’r aeddfedrwydd i’w glywed ymhob elfen; y cynhyrchu, y caneuon a’r perfformiadau. Mae dau symudiad clir i’r albwm, y cyntaf yn hamddenol neu’n araf, a’r ail yn fwy caled ac egniol.

  • Rhifnod : CraiCD060
  • Label: Sain
  • Genre: Pop
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 1998

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords