Sain Records

Mim Twm Llai - Yr Eira Mawr

Mim Twm Llai - Yr Eira Mawr

Mae ‘Yr Eira Mawr’ yn gasgliad o ganeuon amrywiol a deinamig, sy’n plethu arddulliau gwerin, gwlad, Americana, reggae a roc i greu swn acwstig amgen ac unigryw. Albym 15 trac sy’n cynnwys dehongliad Mim Twm Llai o ‘Pam fod eira yn wyn? gan Dafydd Iwan a ‘Merch y ffatri wlân’ gan Meic Stevens. Ysbrydoliaeth bennaf Mim Twm Llai yw ardal chwarelu Blaenau Ffestiniog, sef bro ei febyd, a chawn gyflwyniad o fywyd a chymeriadau unigryw’r ardal trwy ei ganeuon hwyliog, ffres a chlyfar. Yn ogystal â hyn, clywir cân yn adrodd hanes y bardd enwog, Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn) a chaneuon yn cwestiynu materion amgylcheddol a gwleidyddiaeth y byd.

Dyma drydedd ac albym olaf Mim Twm Llai, bydd Gai Toms (prif ganwr a chyfansoddwr) yn parhau i gyfansoddi a recordio o dan enw ei hun ac mi fyddwch yn siwr o weld Gai a’i fand yn perfformio mewn amryw o leoliadau yng Nghymru a thu hwnt yn y blynyddoedd nesaf.

Mewn Stoc
£5.99 £9.99

  • Rhifnod : CraiCD104
  • Label: Sain
  • Genre: Pop
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2006

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords