Sain Records

Artistiaid Amrywiol - Nia Ben Aur

Artistiaid Amrywiol - Nia Ben Aur

Y clasur o’r 70au ar gael o’r diwedd ar CD.

Roedd llwyfannau’r Opera Roc Nia Ben Aur ar lwyfan Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerfyrddin yn 1974 yn garreg filltir am sawl rheswm. Hon oedd y sioe gyntaf o’i bath yn y Gymraeg, a’r tro cyntaf i’w “diwylliant roc” gael ei arddel a’i gydnabod ar lwyfan y Brifwyl. Hwn oedd y tro cyntaf hefyd i nifer o grwpiau poblogaidd Cymru ddod at ei gilydd i greu Opera Roc, ac yr oedd yn adlewyrchiad o’r bwrlwm creadigol, ac o’r doniau disglair, a daniodd y byd canu poblogaidd Cymraeg yn y 70au.

Chwarter canrif yn ddiweddarach, dyma ail gyhoeddi’r campwaith cerddorol hwn ar Gryno-ddisg am y tro cyntaf, i brofi nad yw caneuon da byth yn heneiddio, a bod Nia Ben Aur yn fythol ifanc!

Holl ganeuon y sioe mewn un gyfrol

  • Rhifnod : Sain SCD2289
  • Label: Sain
  • Genre: Folk
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2000

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords