Sain Records

Tudur Huws Jones - Dal i Drio

Tudur Huws Jones - Dal i Drio

Mae albym yr aml-dalentog Tudur Huws Jones yn llawn o ganeuon personol sy’n adlewyrchu diddordeb y cyfansoddwr mewn hanes ac yn y byd o’i gwmpas, ac yn arbennig felly brwydr y gweithiwr am ei hawliau.
Mae’n canu i’r rhai a gollodd eu gwaith, ac i rai fel streidwyr Friction Dynamics Caernarfon a fu’n ymladd yn ofer am eu swyddi, a hynny gan mlynedd union wedi streic fawr y chwarelwyr. Canodd hefyd i’r rhai a fu’n ymladd yn Rhyfel Cartref Sbaen, ac i’r rhai a gollodd eu bywydau yn Rhyfel Cartref America, un o’i hoff feysydd hanes.

Ond mae Tudur hefyd wedi gwreiddio yng Nghymru, ac efallai mai ei ganeuon mwyaf hudolus yw’r rhai i’w gariad, yn arbennig felly y clasur “Angor”.
Mae’r cyfan wedi ei gyflwyno mewn arddull a ddylanwadwyd gan gerddoriaeth werin Cymru a’r America, gyda dogn o ddylanwad Gwyddelig hefyd yn amlwg, ac amlygir doniau Tudur ei hun ar y banjo, ar y gitar, ac ar y pibau i greu cyfanwaith hynod o gyfoethog a chofiadwy.

Mewn Stoc
£5.99 £12.98

  • Rhifnod : Sain SCD2417
  • Label: Sain
  • Genre: Folk
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2004

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords