Sain Records

ESTELLA - LIZARRA

ESTELLA - LIZARRA

Albym wych gan y grwp amryddawn o Flaenau Ffestiniog.

Albym wych gan y grwp amryddawn o Flaenau Ffestiniog, albym sydd wedi ei disgrifio fel …taith emosiynol drwy gyfrwng jazz, ffync, ‘reggae’, ‘soul’ a pop! O wrando arni, chewch chi mo’ch siomi!Ffurfiwyd Estella yn hwyr yn y 90’au tra roeddynt yn fyfyrwyr yng Ngholeg Meirion Dwyfor. Cyfansoddodd Lauren (prif leisydd) g�n fel rhan o’i gwaith cwrs ac fe gafodd cymorth Kaz (ei brawd) ar gitar, a’i ffrind Phil ar dryms i berfformio set. Cafwyd ymateb calonogol iawn i’r set, ac yn sgil hynny fe aed ati i ffurfio band, a dyna pryd yr ymunodd Robbie � nhw ar y gitar f�s, Asa (brawd Kaz a Lauren) fel gitarydd arall a Hann ab Ionas a Siaron James – y ddau ar offerynnau taro ac fel peirianwyr SAIN. Daw teitl yr albym, Lizarra o enw pentref yn Nafarrda, Gwlad y Basg. Wrth feddwl am yr enw Estella doedd gan ‘run ohonynt y syniad lleiaf mai’r enw Sbaeneg ar bentref Lizarra oedd Estella! Hann a Siaron ddaeth ar draws hyn tra yn teithio gyda Bob Delyn a’r Ebillion, ac fe benderfynodd y ddau y byddant yn gwenud pob ymdrech i fynd ag Estella yno ar daith – fe aethont ac fe wnaed nifer fawr iawn o ffrindiau a chysylltiadau yno.

Rhestr y Traciau

  1. INTRO
  2. GWIN COCH
  3. SOMETHING TO SMILE ABOUT
  4. LLWYBR
  5. ELASTIC BAND
  6. RHYFEL
  7. I DON'T KNOW
  8. I HAD A DREAM
  9. THINK TANK
  10. STYLE GRACE AND BEAUTY
  11. MAENTWROG
  12. DY NATUR DI
  13. TEARDROPS AND CANDLE WAX
  14. HOME SWEET HOME
  15. EPILOGUE

Mewn Stoc
£5.99 £12.98

  • Rhifnod : SAIN SCD 2432
  • Label: Sain
  • Genre: Pop
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2003

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords