RHYS MEIRION - PEDAIR OED
Casgliad ble mae Rhys yn arddangos ei feistrolaeth ar y dull clasurol a’r opera, ac hefyd ei hoffter o’r unawdau Cymraeg.
Yn Rhys Meirion, mae’r elfennau i gyd yn cyfuno – llais bendigedig,
presenoldeb llwyfan sy’n hoelio sylw, personoliaeth gynnes a synhwyrusrwydd cerddorol o’r radd flaenaf. Does ryfedd ei fod bellach yn derbyn cymeradwyaeth torfeydd ar draws y byd, ac mewn Cyngerdd Gala diweddar yn Neuadd Albert gyda Bryn Terfel, roedd yn dal ei dir yn ddidrafferth gyda’r cawr o Bant-glas. Nodwedd arall sy’n gyffredin i’r ddau ganwr arbennig yma – a fagwyd o fewn tafliad carreg i’w gilydd – yw eu bod ill dau yn gwbl gartrefol gyda chaneuon o sawl traddodiad ac arddull.
Yn y casgliad newydd hwn, Pedair Oed mae Rhys yn arddangos ei feistrolaeth ar y dull clasurol a’r opera, ac hefyd ei hoffter o’r unawdau Cymraeg megis Bugail Aberdyfi, Cwm Pennant a Mae Hiraeth yn y Môr, a rhai o hoff emynau ein cenedl. Ond yma hefyd, cawn ffrwyth ei gyfeillgarwch personol â’r cyfansoddwr toreithiog Robat Arwyn mewn tair cân sy’n siwr o ddod yn ffefrynnau gan gynulleidfaoedd trwy Gymru a thu hwnt, sef y gân-deitl Pedair Oed, y ddeuawd hyfryd gyda Fflur Wyn, Mae’r Gân yn ein Huno, a Cân Mair. Unwaith yn rhagor, gwelir yn y caneuon hyn gydweithio hynod o effeithiol rhwng y cerddor a’r bardd Robin Llwyd ab Owain.
Meddai Rhys….
Ers recodio’r CD cyntaf rwyf wedi dechrau ar yrfa broffesiynol lawn ac yn mwynhau’r profiadau a’r cyfleon a ddaw yn ei sgîl. Rwyf yn brif denor gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Lloegr lle câf cyfle i ddatblygu fel artist, a chael cefnogaeth wych ganddynt ymhob ffordd.
Mae’r casgliad o ganeuon ar y CD yma yn amrywiol iawn, fel y cyntaf, ond y tro hwn rwyf wedi dewis caneuon sydd wedi eu cyfansoddi ar gyfer llais a phiano yn unig . Er iddynt i gyd bron gael eu trefnu ar gyfer cerddorfa ar ryw adeg neu’i gilydd, yn wreiddiol caneuon ar gyfer llais a phiano oeddynt.
Mewn Stoc
£9.99




