Sain Records

Huw Chiswell - Neges Dawel

Huw Chiswell - Neges Dawel

Canwr-gyfansoddwr,cynhyrchydd/cyfarwyddwr/cyflwyn-ydd teledu ac actor. Dyna rai o rinweddau amlycaf y gwr a aned yng Nghwmtawe. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Pant-Teg, Ysgol Gyfun Ystalyfera a Phrifysgolion Aberystwyth ac Abertawe gan raddio yn y Gymraeg.

Roedd yn aelod o’r bandiau ‘Y Crach’ a’r ‘Trwynau Coch’, a fo oedd cyfansoddwr y gân elusen i Ethiopia ‘Dwylo dros y môr’ (1985). Bu hefyd yn actio rhan Carlos yn y ffilm Ibiza Ibiza! yn yr 80au.

Roedd ei albym cyntaf ‘Rhywbeth o’i le’ (1986), yn cynnwys clasuron fel ‘Parti’r Ysbrydion’, a’r ‘Cwm’. Dilynwyd hwnnw gan ‘Rhywun yn gadael’ (1989), a gynhwysai’r gân anfawrol ‘Tatws’. Yna, rhyddhawyd recordiad preifat ganddo sef ‘Cameo Man’ (1993). Ar ôl seibiant o recordio, rhyddhawyd ‘Dere Nawr’ (2003). Roedd yr hen elfennau yno – ei lais cadarn swynol, baledau â threfniannau dychmygus a chlust am alaw a geiriau syml. Rhyddhawyd casgliad o’i Oreuon yn 2005.
Gyda ‘Neges Dawel’, ceir casgliad arall i gyffwrdd yr enaid, a’r cyfan wedi eu cyfansoddi (geiriau a’r gerddoriaeth) gan Huw. Caneuon personol a theimladwy iawn yw’r rhain a ysgrifennwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol, er bod dwy gân gynnar yma hefyd. Recordiwyd yn stiwdio Richard Dunn yn Llandaf Medi a Hydref 2008, gyda Richard yn chwarae’r piano/organ/acordion a chynhyrchu.

  • Rhifnod : Sain SCD2565
  • Label: Sain
  • Genre: Pop
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2008

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords