Sain Records

David Kempster - Bariton / Baritone

David Kempster - Bariton / Baritone

Mewn cyfnod sy’n gyforiog o dalentau yn y byd canu clasurol yng Nghymru, saif David Kempster ymhlith y mwyaf disglair. Dilynodd ei yrfa lwybr nodedig, a nodweddiadol Gymreig: cychwynnodd yn 16 oed gyda Chôr Meibion Orffews Rhosllannerchrugog, ac aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Manceinion, magwrfa cynifer o gantorion Cymru. Tra yn y coleg, enillodd deitl Canwr Cymreig Ifanc 1998, a’r flwyddyn ganlynol cynrychiolodd Gymru yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd, Caerdydd.

Bu’n aelod blaenllaw o Gwmni Opera Lloegr ers 1998, gan gymryd dros 20 o brif rannau mewn operâu fel Manon Lescaut, Il Trovatore, Un Ballo in Maschera a La Bohème.
Ymddangosodd hefyd yn Glyndebourne, a chyda chwmnïau opera Dallas a Florida yn yr Unol Daleithiau, a chymerodd y brif ran yn Rigoletto i Opera Africa. Mae’n canu’n rheolaidd i Gwmni Opera Cymru, gan ymddangos fel y Tad yn Hänsel und Gretel, Marcello yn La Bohème a Belcore yn L’elisir d’amore.

Yn cydredeg gyda’i yrfa mewn opera, mae David wedi creu enw iddo’i hun ar y llwyfan cyngerdd yn rhai o brif neuaddau gwledydd Prydain, gan gynnwys y Royal Festival Hall a’r Barbican yn Llundain, Neuadd Frenhinol Glasgow a Neuadd Dewi Sant Caerdydd, a pherfformiadau cofiadwy yng nghyngherddau’r Eisteddfod Genedlaethol a Chanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Mewn Stoc
£5.99 £9.99

  • Rhifnod : Sain SCD2589
  • Label: Sain
  • Genre: Classical
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2008

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords