Sain Records

MON HELI - HENO

MON HELI - HENO

Deuawd mam a merch o Fôn yw Karen a Sioned. Yn wreiddiol daw Karen o Felinheli ac mae Sioned bellach wedi ymgartrefu gyda’i gwr, Trystan, yn Rhos Isaf ger Caernarfon. Ffurfiodd y ddeuawd wedi cyfnod trist o golli gwr a thad annwyl sef Arthur ac fel y mae rhai ohonoch yn ymwybodol, Karen ac Arthur oedd y MÔN-HELI gwreiddiol. Cam dewr ond naturiol oedd i’r ddwy lwyfannu a diddanu cynulleidfaoedd Cymru benbaladr unwaith yn rhagor. Mae tair o’r caneuon ar y gryno-ddisg hon wedi eu cyfansoddi gan Arthur ac fe’i recordiwyd gan Karen a Sioned fel teyrnged haeddiannol iddo fo.

Rhestr y Traciau

  1. AR FY MEDDWL WYT TI
  2. GAFAEL YN FY LLAW
  3. BREUDDWYDION
  4. DULYN 51
  5. GWERSI TAID
  6. BETH BYNNAG
  7. POB TRO Y CERDDI DI I LAWR Y LON
  8. FY MREUDDWYD I
  9. YR ANRHEG A GEFAIS I
  10. DIWRNOD I'R GENOD
  11. ENETH DLOS
  12. HENO

Mewn Stoc
£2.99 £12.98

  • Rhifnod : SAIN SCD 2610
  • Label: Sain
  • Genre: Country
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2009

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords