Sain Records

Linda Griffiths - Storm Nos

Linda Griffiths - Storm Nos

Casgliad newydd o ganeuon traddodiadol a gwreiddiol gyda lleisiau ychwanegol Lisa Angharad a Gwenno Elan Healy.

Mae Linda Griffiths yn gantores sydd a’i gwreiddiau’n ddwfn yn naear Maldwyn, a gwreiddiau ei cherddoriaeth yn ddwfn yn y traddodiad gwerin Cymraeg. Ond ni fodlonodd ar dderbyn y traddodiad hwnnw’n oddefol: tynnodd ar ei gwreiddiau i ail-greu’r traddodiad mewn modd cyfoes, perthnasol a chreadigol. Yma clywir Linda’n canu cyfansoddiadau newydd yn ogystal â’r hen, gan gynnwys rai o’i gwaith ei hun, a geiriau pobol fel Myrddin ap Dafydd, sy’n feistr ar greu o’r newydd yn ysbryd y baledi a’r hen benillion. Mae hanes Cymru a gwladgarwch tanbaid hefyd yn elfennau yng nghaneuon Linda, ac y mae’r casgliad hwn yn ychwanegiad disglair i’n cyfoeth cerddorol cenedlaethol. Yn ymuno â Linda am y tro cyntaf ar gryno-ddisg mae dwy o’i merched, sef Lisa Angharad a Gwenno Elan.

Allan o Stoc
£5.99 £12.98

  • Rhifnod : Sain SCD2617
  • Label: Sain
  • Genre: Folk
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2009

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords