Sain Records

Godre'r Aran - Clasuron Cynnar

Godre'r Aran - Clasuron Cynnar

CLASURON CYNNAR GODRE’R ARAN AR CD O’R DIWEDD!

Pan gyhoeddwyd record Cor Godre’r Aran yn 1954 gan Delyse, creodd argraff ryfeddol ar y cyhoedd yng Nghymru a’r tu hwnt. Fe’i hystyrir hyd heddiw yn un o glasuron mawr cerdd dant, ac yn un o glasuron arbennig hanes recordiau Cymraeg.
Yn awr, cawn gyfle i glywed y glasur hon eto, a hynny ar Gryno-Ddisg newydd gan SAINSAIN SCD 2640:
“Clasuron Cynnar Godre’r Aran”. Yn ogystal a’r recordiad cyntaf hwnnw, clywir yr ail a gyhoeddwyd gan Delyse yn 1967 – cyfanswm o 26ain o draciau gwych ar un CD.

Teyrnged i Gyn-Archdderwydd: Wrth i Gymru ffarwelio a Geraint Bowen y cyn-Archdderwydd yr wythnos hon, disgrifiwyd ei awdl i’r Amaethwr fel un o’r goreuon erioed i ennill cadair y Brifwyl. Yn briodol ddigon, clywir Cor Godre’r Aran yn canu detholiad o’r awdl ysgubol honno ar y recordiad hwn: “Y gwr a arddo gweryd, a heuo faes, gwyn ei fyd.”

  • Rhifnod : Sain SCD2640
  • Label: Sain
  • Genre:
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2011

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords