Sain Records

Yr Hwntws - Gwentian

Yr Hwntws - Gwentian

Un o’r albyms gwerin mwyaf cyffrous ers blynyddoedd – 18 o ganeuon o Went a Morgannwg gan un o feibion Glyn Ebwy i ddathlu dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol i’w dref enedigol. Mae Gregg Lynn a’r Hwntws wedi gwneud cyfraniad aruthrol i gyfoethogi a bywiogi ein traddodiad gwerin cerddorol, ac wedi rhoi bywyd newydd i dafodiaith hyfryd y Wenhwyseg.

“Ystyr yr enw HWNTWS yw ‘Deheuwyr Cymru’ a chynifer o ganeuon y CD hon yn ddefnyddiau traddodiadol o Forgannwg a Gwent. Cymaint yw parch yr HWNTWS tuag at ddilysrwydd ieithyddol fel iddynt atgynhyrchu tafodiaith ddiflanedig llawer o’r caneuon – Gwenhwyseg.” D Roy Saer.

  • Rhifnod : Sain SCD2645
  • Label: Sain
  • Genre: Folk
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2010

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords