Côr Meibion Llanelli - Angel

Yn 2014 fe ddathlodd Côr Meibion Llanelli ei hanner canmlwyddiant. Ar ôl sefydlu’r Côr ym mis Hydref 1964 dan arweinyddiaeth Denver Phillips, mae’r Côr wedi datblygu ar hyd y blynyddoedd dan arweinyddiaeth Eifion Thomas i fod yn un o gorau mwyaf medrus, enwog a phoblogaidd ein gwlad. Dan gyfarwyddyd cerddorol Eifion, mae’r Côr wedi ennill clod wrth gystadlu, gan ennill y brif wobr yng nghystadleuaeth y prif gorau meibion Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar bum achlysur; wedi ymddangos yn gyson ar y teledu mewn rhaglenni amrywiol, ac wedi bod yn llysgennad i Lanelli a Chymru mewn gwledydd ar sawl cyfandir – gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Canada, Awstralia, Seland Newydd, a gwledydd cyfagos Ewrop, megis Yr Almaen, Ffrainc, Awstria, a’r Iseldiroedd. Felly, gobeithio y mwynhewch yr amrywiaeth o gerddoriaeth sydd yn y casgliad hwn, sy’n adlewyrchu’r math o gerddoriaeth mae’r Côr yn hoffi canu.
Mewn Stoc
£12.98