Corau Amrywiol - Sain y Corau

Casgliad o recordiadau newydd sbon gan gorau cymysg, merched a meibion, yn cynnwys Hogia Llanbobman (Ynys Môn), Lleisiau Mignedd (Dyffryn Nantlle), Côr Crymych a’r Cylch, Côr Eifionydd, Côr Merched Lleisiau’r Cwm (Dyffryn Aman), Côr Dre (Caernarfon), Côr Llanddarog, a Côr Ysgol Theatr Maldwyn.
Mae’r casgliad yn cynnwys trefniannau newydd o ganeuon poblogaidd megis ‘Angor’ (Tudur Huws Jones), ‘Cana dy Gân’ a ‘Mae Cymru’n mynnu byw’ (Dafydd Iwan), a hefyd ganeuon newydd fel ‘Pwy all fesur lled y cariad?’ (Meirion Wyn Jones) a ‘O fy Iesu Bendigedig’ (Catrin Wyn Hughes). Clywir hefyd un o garolau Penri Roberts, Linda Gittins a Derec Williams, ‘Pan ddaeth y Gair yn Gnawd’, yn cael ei chanu gan gôr Ysgol Theatr Maldwyn.
Mae’r holl ganeuon hefyd ar gael fel copiau printiedig
Rhestr y Traciau
- Yr Anthem Geltaidd-Hogia Llanbobman
- Tyrd Aros am Funud - Lleisiau Mignedd
- Pwy All Fesur Lled y Cariad? - Côr Crymych a'r Cylch
- Mae Cymru'n Mynnu Byw - Côr Eifionydd
- O Fy Iesu Bendigedig - Côr Merched Lleisiau'r Cwm
- Y Deryn Pur - Côr Dre
- Heddiw yw'n Dyfodol - Côr Llanddarog
- Mae'r Môr yn Faith - Lleisiau Mignedd
- Yma Wyf Finna' i Fod - Côr Dre
- Y Gwrthodedig - Hogia Llanbobman
- Cana dy Gân - Côr Eifionydd
- Angor - Côr Merched Lleisiau'r Cwm
- Pan Ddaeth y Gair yn Gnawd - Ysgol Theatr Maldwyn
- Adre'n Ôl - Côr Dre
Mewn Stoc
£9.99 £12.98