Sain Records

Artistiaid Amrywiol - Doniau'r Ynys

Artistiaid Amrywiol - Doniau'r Ynys

2017 yw blwyddyn y chwedlau, a lle gwell i gynnal Eisteddfod Genedlaethol Cymru nag ar Ynys Môn – ynys chwedlonol sy’n llawn straeon a hanes am seintiau, tywysogion, beirdd a derwyddon, ac sydd hefyd â thraddodiad hir o ganu, cyfansoddi a pherfformio. Yn wir, go brin fod unrhyw ran arall o Gymru wedi cyfrannu mwy nag Ynys Môn i’r byd adloniant Cymraeg.

Gorchwyl pleserus oedd gwrando ar yr holl ddeunydd yn archif Sain gan artistiaid o Fôn ond tasg enfawr oedd dethol a dewis yr artistiaid hynny ac nid ydy wedi bod yn bosibl i gynnwys pawb oedd a hawl i fod ar y casgliad CD dwbl hwn – mi fyddai’n ddigon hawdd ymestyn y casgliad i hanner dwsin o ddisgiau! Yn ogystal â’r deunydd yn yr archif roeddem yn awyddus i gynnwys artistiaid ifanc, rhai ar ddechrau eu gyrfa, eraill yn canu mewn corau neu grwpiau yn eu hamser hamdden, er mwyn adlewyrchu’r bwrlwm cerddorol sydd yn bodoli ar Ynys Môn.

Yn sicr ddigon, mae’r ynys yn dal i gynhyrchu ton ar ôl ton o dalentau newydd disglair, a gobeithiwn y bydd yr amrywiaeth rhyfeddol a glywir yn y casgliad hwn yn apelio at bawb: yn gerddoriaeth glasurol, pop, gwerin a cherdd dant ac offerynnol, gan unawdwyr, deuawdau, corau a phartion – ac ambell i syrpreis!

Mwynhewch y gwrando.

Rhestr y Traciau

  1. Hogan o Fôn - Leah Owen
  2. Gwynfyd - Steffan Lloyd Owen
  3. Y Cobler Du Bach - Aelwyd yr Ynys
  4. Rhy Hwyr - Mojo
  5. Sgwenna dy Stori - Elin Fflur
  6. Yr Ornest - Gwyn Hughes Jones
  7. Y Bore Glas - Iwan Llewelyn Jones
  8. Happy We Are All - Lleisiau'r Frogwy
  9. Dim Ond Un - Cordia
  10. Salm 23 - Côr Adlais
  11. Mai - Llio Evans
  12. Nerth y Gân - Rhys Meilyr
  13. Cyntaf Dydd o Fai - Pererin
  14. Cân - Sioned a Cathrin
  15. Fy Mhennaf Ffrind - Hogia Bryngwran
  16. Ar Lan y Môr - Lucy Kelly
  17. Cana dy Gân - Daf a Lisa
  18. Amser Maith yn Ôl - Tudur Huws Jones
  19. Heriwn, Wynebwn y Wawr - Côr y Traeth
  20. Hiwmor Charles - Charles Williams
  21. Caffi Gaerwen - Tony ac Aloma
  22. O'r Fan Acw - Margaret Williams
  23. Rhosyn yr Iôr - Côr Ieuenctid Môn
  24. Dafydd y Garreg Wen - Meilir Jones
  25. Yn Dy Gwmni Di - Gwen Elin
  26. Gwenno Penygelli - Moniars
  27. Beth Bynnag Ddaw - Brenda Edwards
  28. Eiliad Dragwyddol - Sharon Evans gyda/with Chôr y Traeth
  29. Ave Maria - Aled Jones
  30. Yr Anthem Geltaidd - Hogia Llanbobman
  31. Merch y Melinydd - Marian Roberts
  32. Gafael yn fy Llaw - Wil Tân a Karen (Môn Heli)
  33. Brith Atgofion - Nathan Williams
  34. Dangos i Mi - Meinir Gwilym
  35. Cyffur Cariad - Carlotta
  36. Zimba Zamba - Dewi Ellis Jones a Band Biwmares
  37. Dwy Bont - Broc Môr
  38. Pont y Borth - Côr Meibion y Foel
  39. Molawd Môn - Rhianedd Môn
  40. O Gymru - Hogia'r Ddwylan
  • Rhifnod : Sain SCD2764
  • Label: Sain
  • Genre: Compilation
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2017

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords