Côr Meibion Clwb Rygbi Treforys - Canwn ein Cân / United in Song

Mae Côr Meibion Clwb Rygbi Treforys yn un o’r prif gorau meibion Cymreig ieuengaf, gydag enw da am berfformiadau o safon uchel. Yn wreiddiol, ffurfiwyd y côr yn 1978 gan ddeuddeg aelod o Glwb Rygbi Treforys, a oedd yn canu mewn gwahanol glybiau rygbi ar ôl mynychu gemau rhyngwladol. Fe ddatblygodd yn fuan yn gôr er mwyn codi arian, yn canu i ddifyrru mewn lleoliadau bach ar gyfer elusennau lleol a chartrefi preswyl. Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio cynyddodd yr aelodaeth, ac ar hyn o bryd mae bron i 90 o aelodau yn y côr .
Prif nod y côr yw canu cerddoriaeth gorawl mewn cyngherddau cyhoeddus i gynorthwyo a chodi arian ar gyfer sefydliadau elusennol. Mae eu repertoire yn eang ac amrywiol, gan gynnwys cerddoriaeth gysegredig, arias operatig, emynau a chaneuon traddodiadol Cymreig, a chaneuon o sioeau cerdd. Mae’r côr yn elusen gofrestredig ac nid yw’n codi tâl am berfformiadau elusennol, ac eithrio rhannu costau teithio . Maent hefyd yn canu (am ffi) mewn priodasau a digwyddiadau corfforaethol.
Mae’r côr wedi ymgymryd â nifer o deithiau i wahanol wledydd Ewropeaidd, ac un o’r rhai mwyaf cofiadwy oedd cynrychioli Cymru yn 2012 yn yr Ŵyl InterCeltique yn Lorient, Llydaw. Cafodd eu Cyfarwyddwr Cerddorol D. Huw Rees yr anrhydedd o arwain yr holl artistiaid (gan gynnwys nifer o fandiau pibau) ym mhob un o’r pum cyngerdd hwyrol mawreddog a gynhelir mewn stadiwm. Ym mis Mai / Mehefin 2016 bu’r côr ar daith gyngerdd lwyddiannus o ardal Mosel yn yr Almaen, ac ym mis Gorffennaf, enillodd Wobr Gyntaf Eisteddfod Gŵyl Fawr Aberteifi.
Mae’r côr wedi ymrwymo i annog talentau cerddorol ifanc yn y gymuned, sy’n cynnwys corau ac unawdwyr ysgolion cynradd ac uwchradd lleol i roi profiad o gynulleidfa ehangach i berfformwyr ifanc. Ym mis Mawrth, cynhaliwyd eu pedwerydd Cystadleuaeth Gorawl Ysgolion yng Nghapel y Tabernacl, Treforys
.
Ym mis Hydref 2017 aeth y côr ar daith fer i Fflandrys, gan ganu yn seremoni’r Last Post yn y Giât Menin yn Ypres, a hefyd cynnal cyngerdd yn Eglwys Lille
Mewn Stoc
£12.98