Sain Records

Bob Delyn a'r Ebillion - Dal i 'Redig Dipyn Bach

Bob Delyn a'r Ebillion - Dal i 'Redig Dipyn Bach

Mae 14 mlynedd ers i Bob Delyn a’r Ebillion ryddhau albym! Ble buon’ nhw cyhyd? Bywyd ddaru eu herwgipio nhw, yr un fath â phawb arall. Mae’r 15 cân yma yn sôn dipyn am yr hyn sy’n peri i rywun gadw trên bach y sgwarnogod yn y bocs o’r diwedd. Ond mae yma fwynder a llawenydd ac ambell gip dros yr ysgwydd tua lle bu dechre’r daith.

Recordiwyd yn Stiwdio Pant yr Hwch gan Edwin Humphreys, cymysgwyd yn stiwdio Sain, Llandwrog.

Gigs dros yr haf :

Nos Wener 21/07 Sesiwn Fawr Dolgellau
Nos Sul 6/08 Tŷ Gwerin, Eisteddfod Genedlaethol Môn
Nos Sadwrn 12/08 Gig y Gymdeithas gyda Geraint Jarman, Eisteddfod Genedlaethol Môn
7-10/09 Gwyl Rhif 6, Portmeirion
Nos Wener 29/09 Cabaret Pontio, Bangor gyda Bwncath

Rhestr y Traciau

  1. Cân John Williams
  2. Fy Mendith ar y Llwybrau
  3. Waliau Caernarfon
  4. Meur a Wech
  5. Comin Abergwesyn
  6. Y Mab Penfelyn
  7. Cyfod dy Wely
  8. Sŵn ar Gardyn Post
  9. Cân Begw
  10. Rhydd
  11. Cân Syndans
  12. Dweud
  13. Deryn Du
  14. Gyda Mwynder
  15. Nemet Dour
  • Rhifnod : Sain SCD2773
  • Label: Sain
  • Genre: Folk
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2017

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords