Sain Records

Côr Eifionydd - Tua Bethlehem Dref

Côr Eifionydd - Tua Bethlehem Dref

Cyngerdd Nadolig Côr Eifionydd ar y nos Sul cyn yr Wˆyl yw un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i aelodau’r côr. Cynhaliwyd y noson bob blwyddyn ers dros 25 mlynedd bellach gyda’r elw yn mynd at achosion da lleol a chenedlaethol sydd â chysylltiad ag aelodau o’r côr.

Pan ddaw’r hydref bob blwyddyn, bydd Pat yn dod â nifer o garolau newydd i’r ymarferion a bydd y gwaith o’u dysgu yn dechrau. Dyma arwydd bod y Nadolig yn nesáu. Byddwn wedyn yn eu canu gyda charolau mwy traddodiadol a charolau sydd wedi dod yn ffefrynnau gan aelodau’r côr.

Cam naturiol felly oedd cynhyrchu CD o rai o’r carolau a berfformiwyd gennym yn ein cyngherddau Nadolig dros y blynyddoedd diwethaf. Dyma bumed recordiad Côr Eifionydd a gobeithiwn y cewch fwynhad wrth wrando arno.

Rhestr y Traciau

  1. Draw yn Ninas Dafydd Frenin
  2. Ding Dong!
  3. O Ddwyfol Nos
  4. Iesu'r Mab Dinam
  5. Carol yr Angylion
  6. Cans i Nyni fe Aned Mab
  7. O Faban Glân
  8. Cwsg fy Maban
  9. O Dawel Ddinas Bethlehem
  10. Mae Gwahoddiad
  11. Dawel Nos
  12. Ganol Gaeaf Noethlwm
  13. Tua Bethlehem Dref
  14. Suai'r Gwynt
  15. Ymunwch yn y Symffoni
  16. Hwiangerdd y Nadolig
  17. O Deuwch Ffyddloniaid

Mewn Stoc
£12.98

  • Rhifnod : Sain SCD2787
  • Label: Sain
  • Genre: Choral
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2018

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords