Sain Records

Steffan Hughes - Steffan

Steffan Hughes - Steffan

DYDDIAD RHYDDHAU – 23/11/2018

Mae Sain yn falch o gyhoeddi albym newydd sbon gan Steffan Hughes – casgliad o ganeuon Cymraeg a Saesneg mewn amrywiol arddulliau – gwerin, sioeau cerdd, clasurol poblogaidd a gospel, ynghyd â chyfansoddiad newydd gan Steffan ei hun a chân newydd gan Caryl Parry Jones. Cychwynnodd Steffan ganu yn 8 oed ac mae’n wyneb cyfarwydd ar lwyfannau eisteddfodau a chyngherddau Cymru ers yn oedran ifanc. Recordiodd ei albym cyntaf ‘Cana o dy Galon’ yn 12 oed ac yn dilyn y record hynny, derbyniodd wahoddiad i ganu deuawd gyda Katherine Jenkins ar ei chweched albym ‘Sacred Arias’ gan gyrraedd rhif 5 yn y siartiau albyms Prydeinig nôl yn 2008.

Erbyn hyn mae Steffan yn un o’r wyth aelod o Only Men Aloud, y grŵp lleisiol a ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth y BBC ‘Last Choir Standing’, gan berfformio ar lwyfannau ledled Prydain a’r byd. Ymysg yr uchafbwyntiau yn ei yrfa hyd yma mae perfformio yn Mumbai, India, cymryd rhan yn nhaith Haf y Proms Prydeinig a chanu i’r dorf yn Stadiwm y Principality yn ystod gemau rhyngwladol y 6 gwlad. Cyhoeddwyd chweched albym Only Men Aloud ynghyd â thaith Prydeinig i’w hyrwyddo yn 2018. Mae Steffan hefyd yn cyflwyno cyfres ‘Sioeau Cerdd Steffan Rhys’ ar BBC Radio Cymru gan sgwrsio gyda nifer o enwau mawr Cymreig y byd sioeau cerdd, yn ogystal a chanotrion ifanc.

Recordiwyd yr albym newydd yn Stiwdio Sain, Llandwrog dan ofal y cyfarwyddwr cerdd a’r cynhyrchydd Geraint Cynan. Yn westai arbennig ar yr albym mae’r gantores Mared Williams, ac mae Mared yn ymuno gyda Steffan i berfformio cyfansoddiad newydd sbon gan Caryl Parry Jones – Y Mur.

Rhestr y Traciau

  1. Dagrau yn y Glaw
  2. Lisa Lân
  3. Nid Fi yw Mab Fy Nhad
  4. Thankful
  5. Y Mur
  6. Landslide
  7. Ceiniog y Brenin
  8. Glaw
  9. His Eye is on the Sparrow
  10. Feels Like Home
  11. Eiliad

Rhag Archebu
£12.98

  • Rhifnod : Sain SCD2791
  • Label: Sain
  • Genre: Easy Listening
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2018

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords