Sain Records

Iona ac Andy - Goreuon

Iona ac Andy - Goreuon

Mae’r casgliad yma o ganeuon yn dathlu 40 o flynyddoedd yn canu gyda’n gilydd a chwarter canrif gyda chwmni Sain.

Rydym wedi cynnwys 17 o’r caneuon mwyaf poblogaidd ’da ni wedi eu recordio dros y chwarter canrif yn ogystal â recordio 3 cân ychwanegol. Mae dwy o’r caneuon yn rhai newydd a’r trydydd yn un o glasuron yr iaith Gymraeg gan Hogia’r Wyddfa sef y gân emosiynol gan y bardd T Rowland Hughes – Y Gwanwyn. Cefais fy magu yng nghysgod Yr Wyddfa yn Nantlle ac mae’r gân yn golygu llawer i mi.

Fe gyfansoddwyd y gan Dau Yn Un gan ein ffrind, a cherddor gwych, Geoff Betsworth a’i wraig Sarah ac mae’r gân Hafan yn golygu llawer i ni gan iddi ein helpu i ddod drwy gyfnod anodd pan oeddwn yn dod dros ganser dwywaith. Diolchwn i Dafydd Iwan am addasu’r ddwy gân yn wych a theimladwy iawn.

Hoffwn ddiolch i’n ffans sydd wedi dod yn ffrindiau ffyddlon dros y blynyddoedd – ’da chi’n wych o bobol a diolch i Sain am ryddhau’r casgliad yma o’n hoff ganeuon i ddathlu 40 o flynyddoedd o ganu gyda’n gilydd.

Rhestr y Traciau

  1. Hafan
  2. Dau yn Un
  3. Y Gwanwyn
  4. Dwylo 'Nhad
  5. Eldorado
  6. Atgof am Eryri
  7. Ym Mharadwys Fan Draw
  8. Cerdded Dros y Mynydd
  9. Cân y Bugail
  10. Douarnenez
  11. Beth yw Lliw y Gwynt
  12. Yr Hen Oriawr Aur
  13. Isaac Lewis
  14. Awn i Wario D'Arian Cariad
  15. Milltiroedd
  16. Rhan o Dy Fyd
  17. Y Ffordd
  18. Rhywun Fel Ti
  19. Ffeirio am Ffortiwn
  20. Cân i Ynys Iona

Mewn Stoc
£9.99

  • Rhifnod : Sain SCD2803
  • Label: Sain
  • Genre: Country
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2018

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords