Sain Records

GWYN HUGHES JONES

Bywgraffiad

GWYN HUGHES JONES Yn hanu o Lanbedrgoch, Ynys Môn cafodd ei hyfforddi fel bariton yn y Guildhall, gan ennill ysgoloriaeth Kathleen Ferrier yn 1992, cyn mynd ymlaen i astudio fel tenor gyda David Pollard. Dechreuodd arni fel canwr operatig proffesiynol yn 1995 gydag Opera Cenedlaethol Cymru fel Ismaele (Nabucco) o dan arweiniad Carlo Rizzi. Ymysg ei rannau, mae wedi canu Duca (Rigoletto), Rodolfo (La Boheme), Nemorino (L'Elisir d'Amore) a phrif ran yn Faust gan Gounod. Bu'n chwarae rhan Rinuccio (Gianni Schicchi) a Rodolfo i’r English National Opera a Macduff (Macbeth) o dan arweiniad Sir Edward Downes i’r Amici di Verdi. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar y cyfandir fel Ismaele (Nabucco) gydag Opera National de Paris o dan arweiniad Maestro Bennini, a chanodd ran Camille de Rossillon (Die Lustige Witwe) i’r un cwmni. Yn 1999 gwnaeth ei début Americanaidd fel Fenton (Falstaff), o dan arweiniad Pappano i’r Lyric Opera, Chicago. Yn yr un flwyddyn, gwnaeth ymddangosiad yn y San Francisco Opera yn canu Rodolfo ac Ismaele o dan arweiniad Maestro Santi. Yn 2001 gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y Metropolitan Opera, Efrog Newydd yn canu Ismaele, rhan y mae wedi ei hail-wneud ddwywaith i’r cwmni. Mae’r cynhyrchiad, o dan arweiniad James Levine wedi ei ryddhau ar DVD yn 2005. Mae Gwyn hefyd wedi canu Fenton yn y Metropolitan Opera, Efrog Newydd ac Ernesto (Don Pasquale) i’r Florida Grand Opera. Ymysg ei raglen helaeth ar gyfer cyngherddau mae Offeren Dros y Meirw (Verdi) a Das Lied von dêr Erde (Mahler). Mae wedi ymddangos gyda sawl cerddorfa, gan gynnwys Cerddorfa Symffoni Llundain, London Sinfonietta, Royal Philharmonic Orchestra, Cerddorfa Genedlaethol BBC Cymru, Israeli Philharmonic Orchestra a'r Royal Flanders Philharmonic Orchestra. Mae hefyd yn unawdydd profiadol, ac wedi ymddangos yn y Purcell Room, Auditorium du Louvre, Paris. Gwyn oedd y datgeinydd cyntaf erioed i gael ei deledu o Neuadd Wigmore, Llundain. Er mor llwyddiannus yw ei yrfa ryngwladol, mae Gwyn wedi dal cysylltiad agos gyda’i wreiddiau, ac mae’n un o gantorion mwyaf poblogaidd llwyfan Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn ymddangos yn rheolaidd ar deledu yang Nghymru. Mae gwerthiant cyson ei recordiadau gyda Sain yn brawf o’i apel barhaol.

Traciau ar hap

  1. CWM PENNANT
  2. I'LL WALK BESIDE YOU
  3. CHE GELIDA MANINA
  4. O Na Byddai'n Haf o Hyd
  5. O DEL MIO AMATO BEN
  6. YR HEN GERDDOR
  7. LAUSANNE (IESU IESU RWYT TI'N DDIGON)
  8. Y DIEITHRYN
  9. DIM OND IESU (O FY IESU BENDIGEDIG)
  10. Y Nefoedd

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords