Sain Records

HENNESSYS

Bywgraffiad

HENNESSYS Roedd tri aelod i'r Hennessys gwreiddiol: Frank Hennessy, Dave Burns a Paul Powell. Gadawodd Paul, ac ymunodd Aloma Jones am gyfnod byr. Bellach, maen nhw fel rheol yn perfformio fel y triawd: Frank Hennessy (gitar, prif lais a chyfansoddwr), Dave Burns (mandolin a llais), a Iolo Jones (ffidil). Bu Paul, y clywir ei lais arbennig ar y traciau cynnar, farw yn wr cymharol ifanc. Wedi ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd, clywir Frank Hennessy yn cyflwyno rhaglen gerddoriaeth werin Radio Wales ‘Celtic Heartbeat’ ar Radio Wales. Cychwynnodd y cyfan yn 1966 pan enillodd gystadleuaeth ‘Spotlight on Youth’ Dinas Caerdydd, gan baratoi’r ffordd i Frank, gyda'i gyfeillion Dave Burns a Paul Powell i droi yn broffesiynol fel Yr Hennessys. Symudodd y tri i’r Iwerddon, lle datblygwyd eu sgiliau ar adeg pan oedd canu gwerin yn ei fri. Daeth pwysau arnynt tra yn Iwerddon i ganu trwy gyfrwng y Gymraeg, er mwyn dangos eu bod yn wahanol i’r lliaws o grwpiau gwerin eraill. A dyna ddechrau cyfeillgarwch gyda'r Dr. Meredydd Evans, a chyflwynwyd nifer o ganeuon Cymraeg i'w rhaglen. Ond fel awdur a chyfansoddwr caneuon gwreiddiol yn ei acen ‘Cerdiff’ y mae prif gryfder Frank, tra bod Dave yntau a stor o ganeuon gwerin a baledi Gwyddelig yn ei repertoire, a Iolo yn bencampwr ar y ffidil.

Traciau ar hap

  1. THE GRESFORD DISASTER
  2. AR LAN Y MOR
  3. AR LAN Y MOR
  4. YR HEN DDERWEN DDU
  5. MAE'N WLAD I MI
  6. GREAT LITTLE TRAINS OF WALES
  7. A DDAW YN OL
  8. PADDY LIE BACK
  9. NEWFOUNDLAND
  10. THE GIPSY

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords