MABSANT
Bywgraffiad
Ffurfiwyd y grwp Mabsant yn Ysgol Gyfun Rhydfelen yn 1977 i ddathlu pen-blwydd yr Ysgol, a'r lleisydd a'u prif symbylydd oedd Siwsann George. Roedd ei marwolaeth yn 2005, wedi brwydr ddewr yn erbyn aflwydd cancr, yn golled fawr i fyd cerddoriaeth werin Cymru a'r byd. Magwyd Siwsann George yn Nhreherbert, Cwm Rhondda, lle dechreuodd ganu yn ifanc, yng ngwersi sol-ffa’r capel ac yn Eisteddfodau’r Urdd. O Ysgol Gymraeg Ynyswen, Treorci aeth i Ysgol Gyfun Rhydfelen, Prifysgol Cymru Aberystwyth a Choleg Cerdd a Drama, Caerdydd. Ers iddi sefydlu’r grwp, bu Siwsann yn canu’n Gymraeg ym mhedwar ban byd, o Boston i Budapest, o Lagos i Kuala Lumpur. Bu hefyd yn gyson ymchwilio, cyhoeddi, recordio a darlledu ar gyfer recordiadau, cyfrolau, ffilm, teledu a radio. Ers dechrau canu’n broffesiynol ym 1983, datblygodd Siwsann gronfa doreithiog o ganeuon traddodiadol a chyfoes. Enillodd glod mewn cystadlaethau, ar rwydweithiau radio a theledu rhygwladol am ei llais “cyfoethog llawn emosiwn” ac am ei chyflwyniadau cyffrous o’r caneuon. Roedd ganddi ddyfnder o ddealltwriaeth am y caneuon oedd heb ei debyg ymysg cantorion eraill ei chenhedlaeth. Gyda mwy na dwsin o recordiadau y tu ôl iddi, roedd hi’n gantores a gyrhaeddodd y brig. Clywir goreuon Mabsant, gyda Siwsann a'u chyd-gerddorion Stuart Brown, Steve Whitehead a Robin Huw Bowen, ar SAIN SCD 2302.
Traciau ar hap
- TRYWERYN
- CAN Y GEINIOG
- MYFANWY
- AMERICA'N GALW
- Y GWYDD
- KODOMO TACHI NI
- GWENNI AETH I FFAIR PWLLHELI
- ENFYS AFFRICA
- HARBWR SAN FFRANSISCO
- SOFL YR HYDREF