Sain Records

MIM TWM LLAI

Bywgraffiad

Gareth Thomas = Gai Toms = Mim Twm Llai = Gai Toms Daeth Gai i sylw’r genedl gyntaf fel aelod o’r grwp rhyfeddol o ardal ryfeddol y Blaenau ( Ffestiniog), Anweledig. Ond wrth gyflwyno’r casgliad o oreuon Mim Twm Llai yn 2008 dyma Gai ei hun i egluro mwy: Roedd Anweledig wedi bod yn mynd am dair mlynedd cyn i mi gychwyn cyfansoddi caneuon acwstig eu naws. Daeth yr ysbrydoliaeth i ysgrifennu caneuon o’r fath gan neb llai na Meic Stevens. Roeddwn wedi clywed Meic Stevens cyn hynny, ond erioed wedi gwrando arno. Yn ystod fy nghyfnod yn y coleg yn Nolgellau, tua 1994, yn astudio Celfyddydau Perfformio, cawsom aseiniad yn y modiwl ddawns. Teitl yr aseiniad oedd - ‘Crëwch ddawns ar y thema – Rhyfel’. Ysgrifennodd Mair Tomos Ifans, ein darlithwraig, at Meic Stevens yn gofyn am ei ganiatâd i ddefnyddio’r gân Daeth neb yn ôl, fel cerddoriaeth i’r ddawns. Cawsom lythyr cyfeillgar yn ôl gan Meic yn cefnogi’r syniad, ac yn dweud ei fod o’n falch bod pobl ifanc yn cael cyfle i astudio a defnyddio’i waith i greu rhywbeth creadigol arall. Wrth wrando ar y gân, a’i astudio, cefais fy ngwefr gerddorol-farddonol cyntaf. Roeddwn wedi profi rywbeth tebyg o waith Gruff Rhys a Ffa Coffi Pawb a gafodd ddylanwad mawr ar Anweledig, ond roedd hwn yn rhywbeth gwahanol eto. Sŵn tannau tyner gitar gyda geiriau teimladwy a delweddol drosto. Ni allaf ddisgrifio mewn geiriau yr union wefr, ond y wefr yna oedd yr allwedd i ddrws y byd rwyf ynddo heddiw. O wneud cymhariaeth rhyngof fi â Bob Dylan, wel Meic Stevens yw fy Woody Guthrie! A rwy’n hyderus ei fod yn ‘Woody Guthrie’ i lawer o artistiad eraill yng Nghymru hefyd. Os oedd Meic yn gallu ysgrifennu am gymeriadau fel Victor Parker, roeddwn i yn gallu sgwennu am bobl fel Robin Pantcoch. Wrth gyfansoddi’r caneuon cynnar, roeddwn wastad yn meddwl am fy ‘milltir sgwâr’. Yn ogystal, roeddwn wastad yn meddwl sut y buasai Meic yn meddwl am y pethau yn fy milltir sgwâr, a sut y bysa fo’n cyfansoddi caneuon am y pethau hyn. Yn raddol sylweddolais mai fi sy’n sgwennu’r gân, a neb arall, yn raddol datblygais hyder i feddwl yn greadigol drosof fy hun. Cyn i mi fynd i’r Brifysgol yn Aberystwyth i astudio Drama, cefais y fraint o allu recordio ambell beth ar hen beiriant 4 trac caset Llwybr Llaethog oedd wedi ei feddiannu gan Kaz Bentham (mab Ben Bentham, Llwybr Llaethog) a Philip Lee Jones, gynt o’r band trwm Y Mistêcs, y ddau erbyn hyn yn aelodau o Estella, a Phil yn Gwibdaith Hen Frân hefyd. Cawsom lawer o jams yn nhy Kaz, jams reggae rhan amlaf, ond weithiau roedd Phil yn dwyn y peiriant iddo’i hun a’i osod yn atig ei fam a’i dad, Anwen a Myrfyn. Ac yno, gyda Phil, y dechreusom recordio pethau dan yr enw Mim Twm Llai. Daeth yr enw o ddychymyg fy nghymydog, Kevin Evans, neu ‘Prinsi’ fel mae pawb yn ei alw. Enw fy nhad oedd Meurig Thomas, a’i lysenw oedd ‘Mim Twm’; roedd fy chwaer fawr Elaine (a ddysgodd i mi sut i diwnio’r gitar, ac sy’n ddylanwad bythol-greadigol) yn cael ei galw’n ‘Mim Twm Bach’ gan Prinsi. Felly... gan fy mod i’n llai na fy chwaer, cefais i y teitl ‘Mim Twm Llai’! Teimlaf bod hwn yn enw llwyfan gwych, a dyna ni. Mae ’na epidemig o ffug enwau yn y Blaenau! Cefais fy ngig gynta fel Mim Twm Llai yn nhafarn Y Kings Head, Blaenau Ffestiniog, neu ‘Y Tap’ fel mae pawb yn ei adnabod. Roedd y caneuon ‘milltir sgwâr’ yn boblogaidd ofnadwy yno, ac os oeddwn i’n gallu chwarae ymysg yr holl heclo a’r herian yn Y Tap, mi allwn i chwarae rhywle yn y byd! Yn Aberystwyth cefais gyfle i berfformio’r caneuon i gynulleidfaoedd ehangach. Roedd gennyf brofiad o chwarae ar lwyfannau mawr beth bynnag, oherwydd Anweledig, ac felly’n gam ar y blaen mewn un ystyr. Cafodd fy nghaneuon argraff ar rai o enethod y coleg hefyd, a thrwy hynny cefais ‘backing singers’ am y tro cynta - Siwan Llynor a Rhian Henblas. Mewn un gig yng Nghlwb Pêl-droed Aberystwyth, mi ddes i sylw rhywun oedd yn gweithio ar raglen ‘Garej’, S4C - Sioned Edwards. Gofynnodd i mi os fyswn i’n hoffi perfformio cân ar y rhaglen - ac o fewn y mis ro’n i a fy ngitar ar deledu cenedlaethol. “Mae’n rhaid bod y caneuon ‘milltir sgwâr’ ma’n cael effaith tu allan i’r filltir sgwâr!”, meddyliais wrth fy hun. Es o nerth i nerth gyda’r stwff acwstig, ac yna ffurfio band i roi nerth i’r caneuon yn fyw. Yr aelodau oedd Euron Jones ar y gitar flaen, a aeth ymlaen i ffurfio Maharishi a rwan yn gitarydd a chwaraewr pedal steel amryddawn i bobl fel Gwyneth Glyn, Alun Tan Lan a Tecwyn Ifan. Y profiadiol Gary Richardson ar y bâs, Phil yn drymio a fy chwaer Elaine yn canu’r llais cefndir. Yr un band sydd dal efo fi hyd heddiw. Datblygais arddulliau gwahanol hefyd drwy wrando ar stwff blŵs, jazz, roots, indie, americana, ac artistiaid fel Bob Dylan, Tom Waits, Bob Marley, Bob Delyn a’r Ebillion, Paolo Conte yn ogystal â’r holl ddylanwadau drwy Anweledig – y ffync, y pync a’r skank! Erbyn heddiw mae’r rhestr o ddylanwadau yn rhy eang i ysgrifennu yma. Dechreuais weld a profi pethau tu hwnt i’r filltir sgwâr, a dechrau arbrofi gyda geiriau ac arddulliau caneuon i fod yn rhyngwladol yn ogystal â lleol, i gyd yn yr iaith Gymraeg. Mewn gig Anweledig ym Mhontypridd, daeth Rhys Mwyn ataf yng nghefn llwyfan a cynnig i mi wneud albwm dan yr enw Mim Twm Llai ar label Crai. Fedrwn i neud dim ond manteisio ar y cyfle. Hwyr yn 2001 cefais alwad ffôn gan Dafydd Iwan o Sain i drefnu dyddiadau. Yn gynnar yn 2002, a finnau’n byw ym Mangor ar y pryd yn gweithio efo Cwmni’r Frân Wen, recordiais fy albwm solo cyntaf yn stiwdio Sain, Llandwrog. Er mwyn mynegi’r ffaith bod ysbryd fy nghaneuon cynnar yn dod o fy milltir sgwâr, penderfynais alw’r albwm yn ‘O’r Sbensh’, hynny yw.... o Danygrisiau. Enw lleol am y twll dan staer ydy ‘sbensh’. Roeddwn yn nabod Dewi Glyn Jones y ffotograffydd ers dipyn bellach, ac yn hoff iawn o’i waith. Penderfynais fy mod i eisiau ei waith o ar glawr yr albwm. Parhaodd y berthynas arbennig yma drwy gyfnod Mim Twm Llai i gyd, a gwaith Dewi sydd ar y tair albwm. Rhwng recordio ‘O’r Sbensh’ (2002) a ‘Straeon y Cymdogion’ (2005) cefais drafferth gyda fy nghlust. Cefais ddeiagnosis o gyflwr o’r enw mastoiditis, casgliad annifyr yn asgwrn y mastoid a achosodd i mi gael llawdriniaeth eitha trwm. Rhwng 2002 a’r presennol rwyf wedi cael 3 ear drum newydd! Yn ôl y doctor, tydi hyn ddim byd i’w wneud â cherddoriaeth uchel; mae’r broblem yn codi am fod fy nghlustiau yn sensitif i gasgliadau. Hyn yw’r rheswm am y bwlch hir rhwng y ddwy albwm. Mae caneuon ‘Straeon y Cymdogion’ yn dod o’r cyfnod pan oedd Anweledig yn byw yng Nghroesor. Dyddiau gwyllt mewn hen dŷ ar stad Brondanw, £12.50 yr wythnos o rent a gorfod hel coed yn y goedwig i gadw’n hunan yn gynnes. Yn ôl y cymdogion, roedd y tŷ’n llawn ysbrydion. Welais i ‘rioed ysbryd, ond roedd teimlad arswydus yn y tŷ weithia! Ar yr albwm yma penderfynais ddod a mwy o offerynnau gwahanol i’r mix gan roi teimlad ychydig mwy ‘hafaidd’ na ‘O’r Sbensh’, ond dal i gadw’r ysbryd amrwd yr un pryd. Ar hon hefyd mae’r gân cerdd dant ‘amgen’ - Y Penblwydd, geiriau Dewi Prysor, ac alaw Siân James. Mae’r gân hon wedi denu sylw annisgwyl gan drawsdoriad o wahanol bobl, o glodfori gan BBC Radio 3 i feirniadaeth hallt y byd cerdd dant Cymraeg! Collais fy nhad ym mis Ionawr 2003, ac erbyn 2006 teimlais bod defnyddio ei ffug-enw fel enw llwyfan braidd yn annaturiol, a fyntau wedi mynd. Ar yr un pryd, roeddwn yn teimlo nad oedd dwy albwm Mim Twm Llai yn ddigon. Yn 2006, penderfynais wneud un albwm arall i wneud y nifer yn dri. Rhif lwcus yn ôl bob sôn! Gyda’r albwm yma, roeddwn eisiau dweud ffarwel i’r enw. A gyda’r tair albwm yn eu cyfanrwydd, yn dweud ffarwel personol i fy nhad. Yr un pryd, roedd hyn yn gyfle ac yn rheswm teilwng i symud ymlaen i ddefnyddio ffug enw fy hun – Gai Toms (Gareth Thomas). Roedd pobl yn gweld Mim Twm Llai fel brand, ac mae’n anodd dod allan o’r brand yna hyd heddiw. Rwan, rwyf eisiau arbrofi efo cerddoriaeth, ei wthio i lefydd nad wyf wedi bod ynddyn nhw o’r blaen. Mae defnyddio fy enw fy hun i wneud hynny yn gwneud pethau’n llawer haws. A hefyd, dwi ddim yn cael pobl yn dod ata’i yn gofyn, “..be ma Mim Twm Llai yn feddwl?”. Os mai ‘O’r Sbensh’ yw’r gwanwyn, a ‘Straeon y Cymdogion’ yw’r haf, ‘Yr Eira Mawr’ yw’r hydref a’r gaeaf ym mlwyddyn Mim Twm Llai. Fel y gwelwch ar glawr ‘Yr Eira Mawr’, rwyf wedi rhewi fel Han Solo yn Star Wars. Ond mae’r ddelwedd felly yn caniatau i Mim Twm Llai ddadmar pan fydd angen! A dyna’n union sydd wedi digwydd gyda’r casgliad yma. Ar ‘Yr Eira Mawr’ hefyd mae caneuon fel Iesu Grist o nefoedd yr adar a ‘Da ni’n gwrando eto? - caneuon a agorodd y drws i mi wneud fy albwm cyntaf dan yr enw Gai Toms – ‘Rhwng y Llygru a’r Glasu’. Albwm eco-gysyniadol yn codi pryderon am y byd sydd ohoni. Rydym yn byw mewn dyddiau ansicr, ond gyda’r casgliad newydd hwn oddi ar fy nhair albwm gyda Sain, dwi’n gobeithio y cewch chi brofiad cofiadwy, hapus a heulog wrth wrando: Best Of Gai Toms, Tanygrisiau, Tachwedd 2008.

Traciau ar hap

  1. YR EIRA MAWR
  2. MERCH O'R FFATRI WLAN
  3. ARWAIN I'R MOR
  4. ROBIN PANTCOCH
  5. BYD I'W WELD YN GRWN
  6. STRAEON Y CYMDOGION
  7. CWMORTHIN
  8. RHOSYN RHWNG FY NANNADD
  9. WBANCRW
  10. RHOSYN RHWNG FY NANNADD

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords