Sain Records

Idwal - O! Wi'n Hapus

Idwal - O! Wi'n Hapus 16 o hanesion Idwal o gyfresi Noson Lawen a Ma Ifan 'Ma Helo, ie, fi Idwal sy' 'ma, a dyma hi o'r diwedd, y DVD. Wel o hyn 'mlan fyddai'n gallu taro mewn i'ch gweld chi unrhyw amser, hynny yw mor belled a bo chi'n edrych arnai ar DVD dwi'n feddwl. Nawr dwi wedi gweld hi unwaith, achos mi nath Feliciti whare hi i fi, a jiw jiw, mi nes i fwynhau hi mas draw, a synnu bywyd mor diddorol wi wedi byw!! Wel gobeithio y gnewch chi fwynhau fy nghwmni i am yr awr a hanner nesa - mae ishie cwmni ar bawb, ond cofiwch, bydd dim rhaid i chi neud te i mi, hynny yw, heblaw eich bod chi'n mynnu. Wel ta ta am y tro...tybed a allai whare hi ar fy record player - mae hi'r siâp iawn, a thwll yn y canol...??!! Idwal Hyd - Tua 90 munud. Iaith - Cymraeg. Lliw - Lliw Llawn. Tystysgrif - U

Mewn Stoc
£4.99 £14.99

  • Rhifnod : SAIN DVD 058

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords