Sain Records

Ffi a'i Ffrindiau (3) - Cacwn Siocled

Ffi a'i Ffrindiau (3) - Cacwn Siocled CACWN SIOCLED Mae Ffi-ffi wedi addo gwneud cacen ar gyfer parti Gardd Tusw. Ond does ganddi ddim wyau. Rhaid mynd i nôl rhai felly, ac mae'n gadael Cog yn gwarchod yr hufen siocled. Beth all fynd o'i le? Pob math o bethau, pan fydd Picwn a Llusgwn o gwmpas!! DAWNSIO GWIRION Mae Ffi-ffi'n paratoi'r ardd ar gyfer disgo Gardd Tusw. Mae Cog yn benderfynol o ddysgu sut i ddawnsio mewn pryd. Mae'n ymweld â phawb yn yr ardd i weld pwy all roi'r cyngor gorau iddo ar sut i syfrdanu'r dorf wrth dawnsio. DIWRNOD BWYTA'N IACH Mae pawb yng Ngardd Tusw wedi tyfu ffrwythau a llysiau ar gyfer Diwrnod Bwyta'n Iach, er mwyn cadw eu dannedd yn gryf ac iach. Ond mae pys Bwmbwl wedi'u difetha, fyddan nhw byth o ddefnydd nawr. Neu a fyddan nhw?? GWNEUD CAWL O BETHAU Mae hi'n ddiwrnod oer yng Ngardd Tusw. Mae Ffi-ffi yn barod i wneud cawl, ond gan Briallen mae'r rysait perffaith. Oes modd dod o hyd i'r cynhwysion i blesio Briallen? CYNGERDD GARDD TUSW Mae'r diwrnod cyngerdd Gardd Tusw wedi cyrraedd. Ond mae gan Ffi-ffi ddolur gwddw, mae drymiau Bwmbwl wedi ymd ar goll, ynghyd â'i fêl sydd ei angen i wella gwddw Ffi-Ffi. A fydd rhaid gohirio'r cyngerdd? DEUNYDD YCHWANEGOL * 5 o ganeuon i'w cyd-ganu Hyd - Tua 70 munud. Iaith - Cymraeg. Lliw - Lliw Llawn. Tystysgrif - Uc

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords