Sain Records

Beryl, Cheryl a Meryl

Beryl, Cheryl a Meryl

What are we like!! Mae Cwmni Sain di mynd all the way ac wedi cyhoeddi eu canfed DVD, a hynny gyda Beryl, Cheryl a Meryl yn Tenerife!!

Dyma gyfle i wylio’r ffilm hynod boblogaidd am y tair cês o Ogledd Cymru, Beryl, Cheryl a Meryl wrth iddyn nhw bacio eu bagiau i fynd ar wyliau i ynys Tenerife am ddigon o “haul, hwyl a hawdidws”.

Bydd ffans o’r gyfres Mawr! ar S4C yn gyfarwydd â’r dair sy’n gweithio mewn siop deithio – Teithiau BCM Travel – ac yn ymfalchio yn y ffaith eu bod yn mynd yr holl ffordd i sicrhau fod eu cwsmeriaid yn cael eu bodloni. Maent yn penderfynu cau’r siop am wythnos a mynd ar wyliau – be all fynd o’i le?!!

Tudur Owen, Iwan John a Rolant Prys yw’r tri actor mewn drag sy’n chwarae’r tair gegog, onest a hwyliog, Tudur hefyd sydd wedi sgriptio’r ffilm. Hefyd yn ymddangos mae Geraint Todd, Catherine Ayers, Johnny Tudor, Grey Evans ac Arwel Gruffudd.
Cafodd ei ffilm ei chynhyrchu gan gwmni Boomerang a’i darlledu gyntaf yn Ionawr 2009.

Mewn Stoc
£4.99 £12.99

  • Rhifnod : SAIN DVD 100

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords