Sain Records

Chris Jones - Dacw'r Tannau

Chris Jones - Dacw'r Tannau

Canwr/gyfansoddwr gwerin yw Chris Jones. Fe’i magwyd yng Ngwm y Glo, ger Caernarfon, Gwynedd, ond aeth ymlaen i raddio mewn Celf Gain ym Mhrifysgol Bryste, a threuliodd cyfnod fel athro ‘Life Drawing’ yn Lloegr. Dechreuodd ganu caneuon o Gymru yn ddigyfeiliant, ac yna dechreuodd ddysgu canu’r gitâr. Daeth ar draws nifer o ganeuon traddodiadol y gwledydd Celtaidd a Lloegr wrth ganu mewn band gwerin fel myfyriwr, ac yna dechreuodd drefnu rhai’r o’r caneuon ar gyfer ei arddull unigryw mewn sesiynau a gwyliau gwerin.

Mae Chris yn cael ei gymharu’n fwyaf aml â Meic Stevens, sy’n dipyn o anrhydedd yn wir. Ond mae’r caneuon y mae’n eu hysgrifennu a’i arddull ar y gitâr yn ein hatgoffa’n fwy o Bert Jansch neu John Renbourn. Ar wahân i Meic Stevens a Plethyn o Gymru, ymhlith ei ddylanwadau mae Chris yn nodi Dick Gaughan o’r Alban, Christy Moore a Planxty o’r Iwerddon, a Woody Guthrie a Nick Jones.

“Dwi’n gweld fy hun fel rhan o draddodiad byw ac yn dewis bod yn “ trad folk” meddai Chris, “a dwi’n mwynhau’r broses a’r her o ail ddehongli caneuon gwerin i gynulleidfaoedd cyfoes.”
Fel pob un o’r cymeriadau gwych a’r gitaryddion mawr-eu-parch hyn, mae caneuon Chris yn adlewyrchu bywyd sydd wedi bod yn galed. Pan gafodd ddwy ddamwain fawr a effeithiodd yn arw arno, roedd rhaid i’w gerddoriaeth gymryd cam yn ôl. Dyna pam, efallai, nad yw ei enw a’i gerddoriaeth mor gyfarwydd ag y dylai fod.
Meddai Adam Walton o BBC Radio Wales:
“When Chris recorded a session for Georgia Ruth’s C2 programme at the tail-end of 2013, the yearning, unaffected beauty of his songs – the truth in his rich baritone – reduced the battle-hardened engineers and production staff to tears. And yes, that’s as rare an occurrence as you might imagine.”

Hefyd, mae Chris yn rhan o brosiect Gorwelion eleni – sef cynllun a redir gan BBC Cymru Wales mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes annibynnol, newydd yng Nghymru. Mae’r cynllun yn hyrwyddo 12 artist dros gyfnod o flwyddyn.

Recordiwyd yr albym yn Stiwdio Sain, ger Caernarfon ym mis Mawrth eleni gyda John Lawrence yn cynhyrchu.

  • Rhifnod : Gwymon CD020
  • Label: Gwymon
  • Genre: Folk
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 29/09/2014

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords