Sain Records

Huw Owen - Ffrind o'r Sioe Sbri!

Huw Owen - Ffrind o'r Sioe Sbri!

Disgybl yn Ysgol Brynrefail, Llanrug ydi Huw Owen ac o Lanberis yn wreiddiol. Cymerodd ran yn sioe gerdd uwchradd yr Urdd 2012, a cân o’r sioe honno mae Huw yn ryddhau ar label Sain, ‘Ffrind’, wedi’i chyfansoddi gan Tom ap Dan.
‘Sbri’
Cyd-weithiodd Cwmni’r Frân Wen gydag oddeutu 130 o ddisgyblion ardal Eryri ar gynhyrchiad newydd sbon gan Iola Ynyr, Beth Angell ac Owain Gethin Davies. Cafodd ei lwyfannu yn y Galeri yng Nghaernarfon rhwng Mehefin 1af – 4ydd i agor gweithgareddau Eisteddfod yr Urdd Glynllifon 2012.
Roedd hwn yn gynhyrchiad a gafodd ei chyffelybu i’r fersiwn Gymraeg o’r sioe Americanaidd boblogaidd, ‘Glee’. Lleolir y sioe mewn gwersyll corawl lle mae criw o ddisgyblion yn gwirioni ar ganu a dawnsio, ac roedd yn cynnwys amrywiaeth o ganeuon poblogaidd Cymraeg a gafodd eu haddasu mewn arddulliau cyfoes. Rhai o’r rhain oedd Brawd Houdini gan Meic Stevens, Tŷ ar y Mynydd gan Maharishi a Ni yw y byd gan Gruff Rhys.
Dyma oedd gan Iola Ynyr, y Cyfarwyddwr, i’w ddweud: “Yn bendant, mae yna unigolion gwirioneddol dalentog yn y cast ac mae brwdfrydedd y corws yn heintus”.

Rhestr y Traciau

  1. Ffrind

Lawrlwytho Yn Unig
£0.79

  • Rhifnod : Sain LL014
  • Label: Sain
  • Genre:
  • Fformat:
  • Dyddiad Rhyddhau: 2012

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords