Sain Records

Calan - Tale of Two Dragons / Chwedl y Ddwy Ddraig

Calan - Tale of Two Dragons / Chwedl y Ddwy Ddraig

Ffidlau, gitar, accordion, pibau a stepio – a’r cyfan yn ffrwydro wrth i Calan berfformio caneuon ac alawon o’u halbym newydd Dinas. Ryddmau gitar trawiadol a darnau carlamus yn tawelu i ganeuon tyner wrth i’r grwp afieithus gychwyn taith a fydd yn para trwy gydol 2015 i ddathlu rhyddhau’r albym. Ymhlith yr alawon traddodiadol a’r darnau newydd danlli, mae Calan yn rhoi bywyd newydd i chwedl Myrddin a’r Ddwy Ddraig, sy’n egluro sut y daeth y ddraig i fod ar ein baner genedlaethol. Bydd y gȃn hon yn cael ei rhyddhau fel sengl ym mis Mawrth.

Daw teitl yr albym o’r enw Dinas Emrys, lle digwyddodd drama’r ddwy ddraig y credir eu bod yn cysgu yng nghrombil y mynydd yn nyfnderoedd y llyn dirgel. Yn ystod y nos, byddai’r dreigiau yn deffro ac yn ymladd, gan wneud i’r ddaear grynu. Pan geisidd y Brenin Gwrtheyrn adeiladu castell ar Ddinas Emrys yn y 5ed ganrif, syrthiai’r meini i’r llawr bob tro yr ymladdai’r dreigiau. Yn ȏl y chwedl, achubwyd y dydd gan fachgen nawmlwydd oedd ȃ doniau hud. Ei enw oedd Myrddin, a chafodd Gymru ei dewin a’i draig goch.

Yn 1945, daeth archeolegwyr o hyd i olion llyn a chaer yn dyddio o amser Gwrtheyrn, a’r waliau yn dangos arwyddion o fod wedi eu hail-adeiladu droeon. Felly troediwch yn ofalus…….!

Bydd Calan yn cychwyn ar eu taith yng Nghymru ym mis Mawrth cyn croesi’r mȏr i America am ddwy daith ym Mehefin a Medi. Wedi hynny, yn ȏl i weddill gwledydd Prydain ym mis Tachwedd, o Essex yn y de i Leeds yn y gogledd.

Cadwch olwg ar wefan Calan a’u tudalen Facebook drwy’r flwyddyn lle cewch gyfle i ddysgu alaw’r mis a step y mis. Gwersi cyflym ar fideo yw’r rhain ar gyfer unrhywun sydd am ddysgu alawon o’r albym neu ddysgu clocsio.

Rhestr y Traciau

  1. Tale of Two Dragons
  2. Chwedl y Ddwy Ddraig

Lawrlwytho Yn Unig
£1.98

  • Rhifnod : Sain LL029
  • Label: Sain
  • Genre: Folk
  • Fformat: Single
  • Dyddiad Rhyddhau: 2015

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords