Sain Records

Gai Toms a'r Banditos - Y Cylch Sgwâr

Gai Toms a'r Banditos - Y Cylch Sgwâr

Yn ystod y misoedd diwethaf mae‘r canwr gyfansoddwr Gai Toms wedi ymgolli yn hanes bywyd un o’n heiconau cenedlaethol – neb llai, na‘r reslar proffesiynol ORIG WILLIAMS. Dyma ddathliad arall o fywyd y cawr o Ysbyty Ifan ond y tro yma drwy gyfrwng albwm cysyniadol gan Gai Toms ac i gyfeiliant y banditos.

Mae’r sengl yn agor gyda sŵn y dorf o gwmpas y cylch sgwâr yn aros yn eiddgar am El Bandito ac yng ngeiriau Gai cawn gyflwyniad o fywyd y cymeriad El Bandito ac agwedd Orig ar y byd.

Recordiwyd y sengl a’r albwm yn stiwdio Sain, Llandwrog gydag Aled Wyn Hughes yn peiriannu ac yn cyd-gynhyrchu gyda Gai. Casglodd Gai griw o gerddorion gwych at ei gilydd ar gyfer yr albwm, ac wedi bedyddio’r criw yn Banditos fel teyrnged i’r dyn ei hun.

Bydd fideo newydd y sengl yn cael ei gyhoeddi ar Orffennaf y 5ed gan Ochr 1 trwy Hansh S4C – yr un diwrnod bydd y sengl ar gael i ffrydio drwy’r byd a bydd Gai Toms a’r banditos yn dathlu’r achlysur gyda pherfformiad yng Ngŵyl Car Gwyllt gyda’r nos …!

Lawrlwytho Yn Unig
£0.99

  • Rhifnod : Sain LL053
  • Label: Sain
  • Genre: Folk
  • Fformat: Download
  • Dyddiad Rhyddhau: 2019

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords