Sain Records

Timothy Evans - Clyw fy Nghân

Timothy Evans - Clyw fy Nghân

Un o leisiau tenor hyfrytaf Cymru a chasgliad o garolau ac unawdau.

Pan fydd llais tenor naturiol yn cael ei gyfuno � phersonoliaeth gynnes, mae gennych rywbeth sy’n mynd yn syth at galon y Cymry. Mae’r cyfuniad yn amlwg ddigon yn y canwr rhadlon o Lanbedr Pont Steffan, Timothy Evans.

Wedi dod i amlygrwydd ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol a Llangollen, mae Timothy bellach yn difyrru cynulleidfaoedd led-led y wlad ar lwyfan y Noson Lawen a’r Cyngerdd, ar deledu, radio a record.

Dyma gasgliad arall ganddo, gyda’u hanner y tro hwn yn ganeuon ar gyfer Tymor y Nadolig. Cewch oriau o fwynhad yn gwrando ar y CD arbennig yma.

Rhestr y Traciau

  1. Clyw fy Nghân
  2. Serch Sydd yn dy Lygaid
  3. Fel Gwna Dau Hen Ffrind
  4. Hiraeth
  5. Canlyn Iesu
  6. Hedd yn y Dyffryn
  7. Gaeaf Oer
  8. Geni Plentyn Bach
  9. Tawel Nos
  10. Sanctaidd Nos
  11. Wyt Ti'n Cofio'r Nos Nadolig?
  12. Uchelwydd a Gwin

Lawrlwytho Yn Unig
£7.99

  • Rhifnod : Sain SCD2149
  • Label: Sain
  • Genre: Classical
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 1996

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords