Sain Records

Robin Huw Bowen - Hen Aelwyd / Old Hearth

Robin Huw Bowen - Hen Aelwyd / Old Hearth

Casgliad gan yr amryddawn Robin Huw Bowen, y telynor Teires sy’n teithio’r byd gyda’i delyn.

Mae cerddoriaeth Nansi Richards wedi bod yn ddylanwad ar Robin Huw fel telynor erioed, a bydd wastad yn ymwybodol o ddyfnder y traddodiad telyn di-dor mae o a Nansi yn perthyn iddo. Ond y tro hwn wrth roi’r albwm yma at ei gilydd, mae Robin yn dwyn ysbrydoliaeth nid yn unig o gerddori Nansi, ond o’i geiriau fel bardd hefyd. Y delyneg hon ganddi sydd wrth wraidd y casgliad yma.

Adlewyrchir canu Nansi yma wrth gwrs, gyda dwy alaw o’i repertoire, wedi’u gosod gydag amrywiadau newydd gan Robin yn unol a’r traddodiad.

Er mwyn amrywiaeth, mae’r CD yn cynnwys sawl cyfansoddiad modern, megis darn dramatig, telynegol Delyth Evans a champwaith cyfoes Anne Morgan Jones.

Rhestr y Traciau

  1. Hen Aelwyd - Llif Ystwyth / Old Hearth - Ystwyth's Flow
  2. Morfa'r Frenhines / The Queen's Marsh
  3. Mwynder Maldwyn / The Gentleness of Montgomeryshire
  4. Y Dydd / The Day
  5. Dafydd y Garreg Wen - Ysgubor y Barwn / David of the White Rock - The Baron's Barn
  6. Hiraeth - Y Gwydr Glas / Hiraeth - The Grey Window-pane
  7. Y Llinyn Arian / The Thread of Life
  8. Hwylio Adref / Sailing Home
  9. Clychau'r Hen Wlad / The Bells of the Old Country
  10. Ffarwel fy Ieuenctid / Farewell to the Days of My Youth

Lawrlwytho Yn Unig
£9.99

  • Rhifnod : Sain SCD2232
  • Label: Sain
  • Genre: Folk
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 1999

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords