Sain Records

Rhys Meirion - Rhys Meirion

Rhys Meirion - Rhys Meirion

Casgliad cyntaf y tenor gafodd ei fagu yn Nhremadog.

Cafodd ei fagu yn Nhremadog gan dderbyn ei addysg yn Ysgol y Gorlan ac Ysgol Eifionydd, Porthmadog. Graddiodd fel Baglor mewn Addysg yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin. Bu’n athro a phrifathro cyn dechrau ei hyfforddiant fel canwr, ac ymaelododd � Chorau Aelwyd Bro Gwerfyl a Rhuthun. Enillodd y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Llandeilo yn 1996, ac Ysgoloriaeth Towyn Roberts yn y Bala yn 1997.

Mae’n canu’n rheolaidd mewn cyngherddau trwy Gymru, ac mae wedi canu yn neuadd Albert, Llundain, Barbedos, Toronto, Ottowa a Florida.

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf fel canwr proffesiynnol yn Glyndebourne yn 1999 fel Edmondo yn Manon Lescaut. Canodd mewn cyngherddau yn Neuaddau Bridgewater Manceinion, Dewi Sant Caerdydd, Albert Llundain, ac mewn recordiad byw o Symffoni rhif 9 Beethoven i’r BBC.

Mae yn aelod o Gwmni Opera Cenedlaethol Lloegr lle mae wedi canu’r Canwr Eidalaidd (Dr. Rosenkavalier), Y Dyn Arfog a’r Gweinidog (Magic Flute), Nadir (Y Pysgotwyr Perl), Marcello (La Boheme, Leoncavallo), Rinuccio (Ganni Schicchi) a Zinovi Lady McBeth of Mtsensk). Gyda’r un cwmni yn nhymor 2001/2002, roedd yn canu Rodolfo (La Boheme), Alfredo (La Traviata) a Nemorino (L’elisir d’amore).

Mewn Stoc
£5.99 £9.99

  • Rhifnod : Sain SCD2272
  • Label: Sain
  • Genre: Classical
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2001

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords