Sain Records

Celt - Stop, Eject

Celt - Stop, Eject

CD dair c�n gan un o grwpiau mwyaf poblogaidd Cymru i ddisgwyl yr albym nesa!

Grwp o ardal Rachub, Bethesda a sefydlwyd bymtheg mlynedd yn �l.

Does dim teitl i’r casgliad yma, ond mae dwy o’r caneuon efo teitlau modern, technolegol – “Stop Eject” a “Telegysyllta”. Caneuon Archie (Barry Jones) ydi’r tair yma hefyd, yn eiriau a cherddoriaeth, ac mae “Paid a dechrau” yn ffrwyth cystadleuaeth C�n i Gymru.

Yr aelodau ydi BARRY JONES (gitar/cyfansoddi) sydd yn Dechnegydd SAIN : MARTIN
BEATTY (canu) sy’n Chwarelwr; STEVEN BOLTON (canu) sy’n gwneud offer dringo efo Cwmni Denny Moorehouse; SION JONES (gitar) sy’n Animeiddiwr (arferai wneud setiau i Gwmni Animeiddio “Gogs”); ALWYN JONES (drymar) sy’n blymar a HUW SMITH (allweddellau) sy’n Athro Ffiseg yn Llandudno. *Mae cyfraniad Dave Wrench ar y recordiad yma ar yr allweddellau a pheiriannu.

Rhestr y Traciau

  1. Telegysyllta
  2. Stop Eject
  3. Paid a Dechrau
  • Rhifnod : Sain SCD2305
  • Label: Sain
  • Genre: Pop
  • Fformat: EP
  • Dyddiad Rhyddhau: 2001

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords