Sain Records

Jac a Wil - Goreuon / The Best of

Jac a Wil - Goreuon / The Best of

Yn dilyn galw mawr, mae goreuon y ddau frawd o Gefneithin ar gael ar CD
Mae goreuon y blynyddoedd bellach wedi eu croniclo ar fformat Cryno-ddisg, er mwyn i genedlaethau’r dyfodol gofio am ganu swynol y ddau golier o Gefneithin.

Detholwyd yr ugain c�n gan Dafydd Iwan, a hynny oddi gasgliadau blaenorol gafodd eu rhydhau ar gasetiau yn 1976 a 1977.

Mawr fydd y galw, felly, am y casgliad yma ar CD, sy’n cynnwys clasuron fel Arfer Mam, Dring i fyny yma, Adref rwy’n dod, Pwy fydd yma ‘mhen can mlynedd, O dwed wrth mam, Siani a nifer o garolau amserol.

Er na chafodd Jac na Wil addysg gerddorol ffurfiol, yr Ysgol Sul oedd prif goleg eu bywyd. Ar y casgliad yma, mae’r brodyr wedi TREFNU NAW o’r alawon.

  • Rhifnod : Sain SCD2330
  • Label: Sain
  • Genre: Easy Listening
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2005

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords