Sain Records

Rosalind a Myrddin - Goreuon / The Best of

Rosalind a Myrddin - Goreuon / The Best of

21 o draciau oddi ar bedwar o’u recordiau rhwng 1979 ac 1986.

Rydym yn eu “cofio o hyd” – y ddeulais cwbl unigryw a ddaeth i amlygrwydd cenedlaethol gyntaf fel aelodau o ddau grwp gwahanol – Rosalind o’r Perlau o ardal Llanbedr Pont Steffan, a Myrddin o Hogia’r Wyddfa o ardal Llanberis, a’r ddau grwp fel ei gilydd â’u gwreiddiau’n ôl yn y chwedegau.

O’r gân gyntaf, daethom yn ymwybodol fod gan y ddau lais yn asio’n arbennig iawn – llais cryf soniarus Rosalind yn cyfuno’n effeithiol gyda llais meddalach Myrddin i ffurfio un o ddeuawdau mwyaf poblogaidd a welodd Cymru erioed.

Bu galw mawr am gasgliad o’u caneuon gorau, ac fe ddewisiodd Rosalind a Myrddin eu hunain 21 o draciau oddi ar bedwar o’u recordiau rhwng 1979 ac 1986, ac un ychwanegol, cyfoes, oddi ar recordiad o basiant Gwyl Fai Pwllheli yn 1997.

Lawrlwytho Yn Unig
£5.99 £12.98

  • Rhifnod : Sain SCD2334
  • Label: Sain
  • Genre: Easy Listening
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2002

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords