Sain Records

Côr Godre'r Aran - Byd o Heddwch / World in Union

Côr Godre'r Aran - Byd o Heddwch / World in Union

Casgliad gwych a diweddaraf y cor o Feirion.

Prif gân albwm Côr Godre’r Aran ydi arwyddgan Cwpan Rygbi’r byd draw yn y wlad lle lansiodd y côr eu CD newydd!

Aeth GÔR GODRE’R ARAN i Awstralia i lansio eu halbwm newydd yn ystod Hydref 2003. Dyma’r seithfed tro iddynt ymweld â’r wlad honno, a buont hefyd yn perfformio yn Seland Newydd am y trydydd tro.

O dan arweiniad medrus Eirian Owen, sy’n arwain a chyfeilio, cafodd y cynulleidfaoedd y gwahanol ganolfannau wledd. Yn ogystal â chlywed y côr yn canu caneuon grymus o’r albwm fel Byd o Heddwch, O Isis ac Osiris, Nkosi Sikelel’i Afrika, Sanctus a Bydded goleuni, roedd unawdwyr nodedig yn perfformio. Mae’r pedwar yn enillwyr cenedlaethol – Tom Evans Gwanas, Trebor Lloyd Evans, Sion Goronwy ac Aled Wyn Davies (unawdydd gwadd).

Rhestr y Traciau

  1. Byd o Heddwch
  2. O Isis ac Osiris
  3. Do You Hear the People Sing?
  4. Dail yr Hydref
  5. Surge Illuminare
  6. Softly as I Leave You
  7. Sanctus
  8. Nkosi Sikelel'i Afrika
  9. Can You Feel the Love Tonight?
  10. O Fendigaid Geidwad
  11. Heriwn, Wynebwn y Wawr
  12. Y Geni
  13. Fendigaid Nos
  14. Bydded Goleuni
  • Rhifnod : Sain SCD2394
  • Label: Sain
  • Genre: Classical
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2003

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords