Sain Records

Artistiaid Amrywiol - Gwlad y Delyn / Wales - Home of the Harp

Artistiaid Amrywiol - Gwlad y Delyn / Wales - Home of the Harp

Casgliad o Alawon Cymreig dros gyfnod o ugain mlynedd a geir yma gan artistiaid amrywiol.

Mae Cymru yn mawrygu ei chysylltiad �‘r delyn, ac fe’i cydnabyddir fel ein hofferyn cenedlaethol. Gwelwyd adfywiad sicr ym maes canu’r delyn yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif, yn arbennig felly gyda’r delyn ‘bedal’ neu ‘gyngerdd’, diolch i’r ysgolion, ac i boblogrwydd cerdd Dant mewn eisteddfodau a gweithgarwch y Gymdeithas Gerdd Dant.

Yn y detholiad hwn, clywir csagliad hynod o alawon Cymreig, a rhai alawon newydd gan delynorion Cymreig, yn cael eu canu ar delynau Pedal, Teires a Cheltaidd, gan roi inni gipolwg difyr ar gynnyrch cerddorol yr ugain mlynedd diwethaf.

Rhestr y Traciau

  1. Bugeilio'r Gwenith Gwyn - Catrin Finch
  2. Wyres Megan - Ar Log
  3. Tra Bo Dau - Dylan Cernyw
  4. Hiraeth / Y Gwydr Glas - Robin Huw Bowen
  5. Penmorfa - Manon Llwyd
  6. Pibddawns Merthyr - Delyth Evans
  7. Myfanwy - Elinor Bennett a Meinir Heulyn
  8. Cadwyn o Alawon Gwerin - Dafydd Huw
  9. Y Llinyn Arian - Robin Huw Bowen
  10. Canu Penillion - Osian Ellis
  11. Ar Lan y Môr - Dylan Cernyw
  12. Pant Corlan yr Ŵyn - Elinor Bennett
  13. Ysbryd Kilvrough - Delyth Jenkins
  14. Clychau Aberdyfi - Robin Huw Bowen
  15. Ar Hyd y Nos - Nia Jenkins
  16. Cader Idris - Elinor Bennett a Meinir Heulyn
  17. Y Dydd - Crasdant
  18. Mwynder Maldwyn - Robin Huw Bowen
  19. Llwyn Onn - Elinor Bennett
  20. Tylwyth Twrch - Delyth Jenkins

Lawrlwytho Yn Unig
£9.99

  • Rhifnod : Sain SCD2396
  • Label: Sain
  • Genre: Harp
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2003

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords