Sain Records

Elin Fflur - Dim Gair

Elin Fflur - Dim Gair

Cryno ddisg cyntaf unigol y gantores ifanc o F�n, Elin Fflur. Mae’r casgliad yma o’i chaneuon yn brawf pendant o’i dawn fel cantores a chyfansoddwraig.

Cryno ddisg cyntaf unigol y gantores ifanc o F�n, Elin Fflur. Wedi llwyddiant cynnar gyda’r grwp Carlotta, daeth Elin i sylw cenedlaethol ar �l perfformio’r g�n fuddugol yng Nghystadleuaeth C�n I Gymru yn 2002. Ymunodd wedyn gyda’r grwp bythol boblogaidd – Y Moniars gan fwynhau llwyddiant digymar gyda chyhoeddi eu CD cyntaf gydag Elin fel prif leisydd – Harbwr Diogel (SAIN SCD2380).Bellach, mae Elin Fflur wedi mentro fel cantores unigol ac yn ymuno � llinach gre y gantores/ gyfansoddwraig Gymraeg. Mae ei chaneuon yn deillio o brofiadau personol neu rai sy’n agos ati ac mae pob c�n ar y CD yn berfformiad angerddol a didwyll gan Elin gyda’r llais a’r carisma sydd wedi syfrdanu ei chynulleidfaoedd. Mae’r casgliad yma o’i chaneuon yn brawf pendant o’i dawn fel cantores a chyfansoddwraig.

Rhestr y Traciau

  1. Dim Gair
  2. Ydio'n Deg?
  3. Ddoi'm yn Ôl
  4. Pan Ddaw'r Haul
  5. Mae'r Ysbryd yn Troi
  6. Tybed Lle Mae Hi Heno?
  7. Paid Troi dy Gefn
  8. Y Llwybr Lawr i'r Dyffryn
  9. Ar Lan y Môr
  10. Syrthio
  11. Unwaith
  12. Gwylio Sêr y Nos

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords