Sain Records

Bryn Terfel a Chyfeillion - Hafan Gobaith / Another Day 2003

Bryn Terfel a Chyfeillion - Hafan Gobaith / Another Day 2003

Prif artistiaid Cymru, gan gynnwys Bryn Terfel, yn dod at ei gilydd i recordio’r gân yn Gymraeg a Saesneg.

CD arbennig o’r enw Hafan Gobaith / Another Day er budd Apêl S4C sef Ty Hafan a Thy Gobaith, y ddwy hosbis i blant yng Nghymru. Dyma fersiwn Cymraeg a Saesneg o’r gân, a daeth bron i 100 o artistiaid Cymreig i stiwdio recordio SAIN a Stiwdio’r Efail ym Mro Morgannwg i ail-recordio’r gân a gyfansoddwyd gan Delyth Rees ac Eleri Richards, ac a ganwyd yn wreiddiol gan Bryn Terfel yn y 90au.

Roedd Bryn ei hun yn bresennol, ynghyd ag Aled Jones, Shân Cothi, Caryl Parry Jones, Dewi ‘Pws’, Dafydd Iwan, Mike Peters, Bryn Fôn, John ac Alun, Sifyn Parri, TNT, Phenna ac Eden.

Daeth sêr y siartiau fel Matt Johnson a Jamie Shaw o One True Voice a Noel O’Sullivan gynt o Hear’Say hefyd i recordio’r fersiwn Saesneg – Another Day.

Mae’r CD yn cynnwys y fersiwn Gymraes a Saesneg, ac hefyd fideo o’r gân Gymraeg, a bydd elw’r gwerthiant i gyd yn mynd tuag at gronfa’r Apêl.

Rhestr y Traciau

  1. Hafan Gobaith 2003
  2. Another Day 2003
  • Rhifnod : Sain SCD2411
  • Label: Sain
  • Genre: Easy Listening
  • Fformat: EP
  • Dyddiad Rhyddhau: 2003

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords